Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth iechyd meddwl, dim ond galwad i ffwrdd

Os ydych chi'n byw ym Mhowys ac yn cael trafferth gyda materion iechyd meddwl ysgafn i gymedrol – gallai fod yn straen, gorbryder, iselder neu broblemau cysgu – gallwch gael cymorth wyneb yn wyneb neu dros y ffôn am ddim trwy ein partneriaeth elusennol â Chonsortiwm Ponthafren.

Mae gwasanaeth Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) ar-lein GIG Cymru wedi ymuno â'r trydydd sector i ddarparu gwasanaeth 'cyfunol' arbennig sydd ar gael i drigolion Powys yn unig.

Ar gael drwy Ponthafren a changhennau lleol Mind, mae'n cyfuno cefnogaeth iechyd meddwl ar-lein gan ddefnyddio SilverCloud® â help llaw dynol ychwanegol gan ymarferydd hyfforddedig.

Mewn cyfarfodydd wyneb yn wyneb bob pythefnos, neu drwy alwad ffôn neu fideo, bydd eich ymarferydd yn eich helpu chi lywio platfform SilverCloud®, sicrhau eich bod ar y rhaglen orau ar gyfer eich anghenion, ac yna eich arwain a'ch annog ar hyd y ffordd.

Does dim rhestr aros a does dim angen gweld Meddyg Teulu. Gallwch weithio trwy'ch rhaglen yn eich amser eich hun ac ar eich cyflymder eich hun.

Simon - sydd wedi'i leoli yn Mind Canolbarth a Gogledd Powys yn Llandrindod - yw'r aelod diweddaraf o'r tîm cyfunol.

Mae'n gwnselydd sydd wedi bod yn gweithio mewn gwasanaethau iechyd meddwl a dibyniaeth yn y trydydd sector a'r GIG ers 20 mlynedd.

“Mae iechyd meddwl yn aml yn ynysig iawn, felly gall cael rhywun y gallwch chi siarad ag ef a chael gwared ar eich baich fod o fudd mawr,” meddai Simon. “Mae hefyd yn helpu cael gwared â llawer o’r cywilydd y gallech fod yn ei deimlo am yr hyn sy’n digwydd.”

Mae rhaglenni SilverCloud yn cymryd tua 12 wythnos i'w cwblhau. I gael y canlyniadau gorau, rydym yn argymell treulio tua 20 munud y dydd, dair gwaith yr wythnos. Gan ddefnyddio'r gwasanaeth cyfunol, bydd gennych chwe chyfarfod bob pythefnos gyda'ch ymarferydd.

Dywed Simon: “Y peth gwych am SilverCloud® yw y gallwch chi neidio i mewn ac allan o bynciau i gyd-fynd â'ch hwyliau. Mae hefyd yn dysgu technegau ymlacio ac ymwybyddiaeth ofalgar – sgiliau gwych rydych chi'n eu dysgu yn syth..

“Os ydych chi'n cael trafferth, rhowch gynnig arni. Chi sydd â rheolaeth. Does gennych chi ddim i'w golli, a phopeth i'w ennill."

I gyrchu’r gwasanaeth cyfunol, cysylltwch â:

Mind Aberhonddu ar 01874 611 529 / support@breconmind.org.uk

Mind Canolbarth a Gogledd Powys 01597 824411 / admin@mnpmind.org.uk

Consortiwm Ponthafren  01686 621 586 / admin@ponthafren.org.uk

Os nad ydych chi eisiau'r gefnogaeth gyfunol, wyneb yn wyneb hon, gallwch chi hefyd ddefnyddio gwasanaeth hunanatgyfeirio SilverCloud drwy gofrestru yma: https://nhswales.silvercloudhealth.com/signup/

Ar draws Cymru, mae 40,000 o bobl wedi defnyddio SilverCloud®.

Gall cymryd camau i ofalu am eich iechyd meddwl heddiw helpu atal problemau mwy difrifol rhag datblygu yn y dyfodol.