Ddoe (1 Medi 2021), mae'r Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) wedi dweud y dylid cynnig trydydd dos o frechlyn COVID-19 cynradd i unigolion, 12 oed neu hŷn, a oedd yn imiwnoataliedig iawn ar adeg ei dos cyntaf neu ail o’r brechlyn, neu’r ddau. Y rheswm dros hyn yw na fydd rhai unigolion sy’n ddifrifol imiwnoataliedig oherwydd cyflyrau iechyd isorweddol neu triniaethau meddygol penodol yn cyrraedd imiwnedd llawn o ganlyniad i’r ddwy frechiad gyntaf o’r brechlyn COVID-19. Mae angen amddiffyniad ychwanegol ar yr unigolion bregus hyn ac rwy'n croesawu'r cyngor hwn.
Mae cyngor y JCVI yn manylu ar y grwpiau a fydd yn gymwys a bydd ein GIG yng Nghymru yn gweithio'n gyflym i nodi unigolion cymwys y bydd eu Byrddau Iechyd yn cysylltu â nhw. Bydd y penderfyniad ar amseriad y trydydd dos yn bwysig i rai cleifion, a bydd yn cael ei benderfynu gan eu clinigwyr arbenigol. Bydd eu apwyntiad ar adeg briodol yn ystod eu cynllun triniaeth. Nid oes angen cysylltu â'ch bwrdd iechyd na'ch clinigwyr i wirio os yr ydych yn gymwys. Bydd y gwaith yn dechrau ar unwaith i nodi a chynllunio i gleifion gael eu brechu a bydd cyfathrebu gan Fyrddau Iechyd yn dilyn cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
Rydym yn gweithio gyda chlinigwyr arbenigol i nodi a chysylltu ag unigolion sy'n gymwys i gael trydydd dos o dan y canllawiau diweddaraf. Peidiwch â chysylltu â'ch bwrdd iechyd neu feddygfa ynglŷn â thrydydd dos.
Nid yw canllawiau cenedlaethol wedi'u cyhoeddi eto ynghylch brechu atgyfnerthu .