Bydd Cabinet Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ystyried drafft o’r Achos Amlinellol Strategol (SOC) ar gyfer y campws iechyd a lles amlasiantaethol yng nghanol y Drenewydd.
Mae Rhaglen Lles Gogledd Powys (NPWB) yn rhaglen o Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys, sy'n cynnwys Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, PAVO a phartneriaid allweddol eraill.
Mae cyfarfod y Cabinet yn cael ei gynnal ar ddydd Mawrth 8fed Mawrth a bydd yn gofyn i aelodau ystyried cynlluniau cynnar Rhaglen Lles Gogledd Powys cyn iddyn nhw gael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Cyn Cyfarfod y Cabinet, bydd yr Achos Amlinellol Strategol hefyd yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Craffu Iechyd a Gofal y cyngor. Ar Fawrth 30ain, bydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ystyried yr Achos.
Mae Rhaglen Lles Gogledd Powys wedi datblygu syniadau cynnar ar gyfer ysgol newydd ar safle Ysgol Calon y Dderwen, cyfleusterau iechyd a gofal cymdeithasol, Academi Iechyd a Gofal, tai â chymorth tymor byr, llyfrgell, cyfleusterau gwybodaeth, yn ogystal â gofod i’w rhannu yn y gymuned. Bydd cynllun i ddarparu ychydig o lety i fyfyrwyr sy'n mynychu'r academi, recriwtiaid newydd i swyddi iechyd a gofal yn ogystal ag arbenigwyr iechyd locwm, hefyd yn cael eu hystyried.
Mae'r cynlluniau hefyd yn cynnig dod â gwell gwasanaethau diagnostig i'r Drenewydd am y tro cyntaf - ynghyd â llawdriniaeth ddydd - wrth i wasanaethau iechyd y dref integreiddio o sawl lleoliad gan gynnwys yr ysbyty presennol, Ynys y Plant, Bro Hafren a'r Hen Goleg.
Ali Bulman yw Cyfarwyddwr Gweithredol ar gyfer y Bobl a Datblygiad Sefydliadol y cyngor, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ac un o'r ddau Uwch Swyddog Cyfrifol ar gyfer y rhaglen. Eglurodd: "Mae'n bwysig bod pobl yn sylweddoli bod gennym bell i fynd i ddatblygu ein cynlluniau ac mae'r Achos Amlinellol Strategol hwn yn cynnwys ein syniadau presennol ar sut y gallwn drefnu'r campws."
Mae'r ddogfen yn cynnwys lluniadau cynnar o 'brawf cysyniad' – a gomisiynwyd gan Hughes Architects o'r Drenewydd - sy'n dangos sut y gallai campws iechyd a lles arfaethedig y Drenewydd edrych pan gaiff ei ddatblygu. Fodd bynnag, mae tîm y rhaglen yn pwysleisio, gyda tharged o ddiwedd 2026 i'r campws fod yn weithredol, fod llawer o waith i'w wneud o hyd.
“Mae fy nghydweithiwr yn y Tîm Trawsnewid Addysg ar hyn o bryd yn gweithio gydag Ysgol Calon y Dderwen, ynghyd â staff gan Wasanaethau Heart of Wales Property, i baratoi cynlluniau cynnar ar gyfer adeilad yr ysgol. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y datblygiad cyffrous hwn yn gwella profiadau dysgu’r disgyblion a fydd yn mynychu’r ysgol yn y dyfodol.
Esboniodd bod datblygiad Ysgol Calon y Dderwen yn debygol o fod y cyntaf i orffen, gyda'r ysgol yn bwriadu agor yn 2025. Yn ddibynnol ar gyllid, mae disgwyl i weddill y campws agor yn y flwyddyn ddilynol.
Hayley Thomas yw Dirprwy Brif Weithredwr y bwrdd iechyd ac Uwch Swyddog Cyfrifol ar gyfer y rhaglen: “Rydyn wedi cynnal llawer o waith ymgysylltu trwy gydol y gwaith hwn, gyda’r adborth yn dylanwadu ar y cynlluniau. Hoffwn ddiolch i bawb a wnaeth ymateb ac ychwanegu y bydd llawer o gyfleoedd ychwanegol i leisio’ch barn yn y misoedd a blynyddoedd i ddod.”
Ychwanegodd Ms Thomas: "Mae tîm y rhaglen, gan weithio gyda chlinigwyr a gweithwyr proffesiynol, hefyd wedi bod yn gwneud llawer o waith cynllunio i weld pa fath o ddarpariaeth iechyd a gofal y gallwn ddarparu ar y campws. Credwn y byddai gennym ddigon o alw i gefnogi gwell diagnosteg a thriniaethau dydd ar y safle a fyddai o fudd aruthrol i'r bobl hynny sy'n gorfod teithio y tu allan i ogledd Powys ar hyn o bryd i gael mynediad at wasanaethau o'r fath."
Os caiff yr Achos Amlinellol Strategol ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, bydd hyn yn arwain at ddatblygu dau achos busnes arall. Mae'r Tîm Trawsnewid Addysg yn dilyn yr un broses ar ôl i'w Hachos Amlinellol Strategol gael ei gymeradwyo ym mis Rhagfyr 2020.
Bydd cefnogi gwaith y cyngor a'r bwrdd iechyd i ddatgarboneiddio yn ganolog i'r cynlluniau, gan sicrhau y bydd pob adeilad newydd yn effeithlon o ran ynni, gan ymgorffori cyfleusterau ar gyfer beicwyr yn ogystal â chynnal amrywiaeth o arolygon amgylcheddol.