Mae Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn rhan mor bwysig o fywyd cymdeithasol, diwylliannol, Nadoligaidd ac economaidd y sir.
Yn anffodus oherwydd y pandemig, nid yw'r Ffair Aeaf - yn ogystal â Sioe Frenhinol Cymru - wedi gallu cael ei chynnal ers 2019.
Gan gydnabod rôl allweddol y digwyddiadau hyn, mae ein prydles gyda Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn cynnwys rhoi’r gorau i weithgareddau brechu dros dro ar gyfer y Ffair Aeaf yn ogystal â Sioe Frenhinol Cymru.
Mae'r Pafiliwn Gwyrdd (lleoliad y ganolfan frechu) yn rhan bwysig o'r Ffair Aeaf, gan ddarparu lle dan do i stondinau masnach rannu eu nwyddau Nadoligaidd. Felly, bydd y ganolfan frechu felly'n cau am gyfnod o bythefnos. Bydd hwn yn gyfnod hynod o brysur gan gynnwys:
Rydym yn hynod ddiolchgar am y bartneriaeth barhaus gyda Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, sydd wedi bod yn hanfodol i'r rhaglen frechu yn Powys. Rydym wedi bod yn gweithio gyda nhw ar y gwaith a gynlluniwyd yn ofalus i sicrhau bod pobl yma yn Powys ac ar draws Cymru yn gallu mwynhau'r Ffair Aeaf a pharhau i gael mynediad at frechu COVID-19.
Bydd rhagofalon ychwanegol ar waith ar faes y sioe ar gyfer Ffair Aeaf Frenhinol Cymru oherwydd y pandemig. Bydd angen i bawb dros 18 oed ddangos eu bod wedi cael dau ddos o'r brechlyn COVID-19 gan ddefnyddio'r Tocyn COVID, neu bydd angen iddynt gadarnhau prawf negyddol gyda dyfais llif ochrol.
Mae mwy o wybodaeth am Ffair Aeaf Frenhinol Cymru ar gael ar eu gwefan . Mae hyn yn cynnwys manylion eu gofynion coronafirws ar gyfer pobl sy'n mynychu'r digwyddiad.
Rydym yn dymuno Ffair Aeaf Frenhinol Gymreig ddiogel i bawb.
Cyhoeddwyd 31/10/21