Neidio i'r prif gynnwy

Cynnydd yn nifer achosion COVID-19 ym Mhowys

Cynnydd yn nifer achosion COVID-19 ym Mhowys

Mae nifer yr achosion positif o COVID-19 wedi bod yn cynyddu'n sydyn ym Mhowys yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Mae hyn wedi digwydd ar adeg pan fo achosion wedi bod yn gostwng mewn mannau eraill yng Nghymru, sy'n golygu mai Powys sydd â'r gyfradd uchaf ond dau o achosion positif o COVID-19 yng Nghymru, a'r ganran uchaf o brofion sy'n rhoi canlyniad positif.

Mae'r cynnydd hwn mewn achosion hefyd yn dod ar yr un adeg â'r newyddion trist bod dros 200 o bobl o Bowys bellach wedi marw yn dilyn prawf positif am y coronafeirws.

Eglurodd Stuart Bourne, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ym Mhowys: "Mae'r cynnydd diweddar yng nghyfradd yr achosion yn rhannol oherwydd achosion o COVID-19 yn codi mewn lleoliadau penodol ar draws y sir. Mae heintiau yn cael cyfle i ledaenu mewn gweithleoedd, yn enwedig mewn lleoliadau lle mae pobl yn gweithio'n agos, lle mae nifer fawr o staff, a lle gallai'r amgylchedd ganiatáu i'r feirws barhau.

"Mae'n hanfodol bod pob gweithiwr ym mhob gweithle yn dilyn canllawiau hylendid dwylo, cadw pellter cymdeithasol a defnyddio offer amddiffynnol personol (PPE) yn y gweithle a thu allan y gweithle i atal achosion rhag digwydd. Yn benodol, ni ddylid rhannu ceir nac ymgasglu yn ystod egwyl neu ar ddechrau a diwedd sifft. Os yw'n bosibl, dylai pobl weithio gartref.

"Mae tystiolaeth bod math newydd, mwy heintus o COVID-19 yn lledaenu ym Mhowys. Mae'r amrywiolyn 'Kent' bellach yn ymddangos yn rheolaidd yng nghanlyniadau profion trigolion Powys. Mae hyn yn peri pryder oherwydd ei fod yn lledaenu'n haws ac mae'n fwy tebygol y bydd rhywun yn cael ei heintio ar ôl dod i gysylltiad â'r feirws.

"Dyma pam mae'n parhau i fod yn hanfodol ein bod ni i gyd yn parhau i ddilyn y cyngor i aros gartref, dilyn rheolau cadw pellter cymdeithasol a gwisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do. Mae brechu yn cynnig y gobaith o ddyfodol mwy disglair, ond am y tro mae'n hanfodol ein bod yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn ein hunain ac eraill rhag COVID-19. Cofiwch - Dwylo, Wyneb, Pellter."

Cofiwch, mae Cymru gyfan dan glo (lefel rhybudd 4) lle mae'n rhaid i bobl ddilyn canllawiau cenedlaethol ac:

  • aros gartref
  • peidio â chwrdd â neb ond y bobl rydych chi'n byw gyda nhw
  • gweithio gartref os medrwch
  • gwisgo gorchudd wyneb lle bo angen
  • golchi eich dwylo'n rheolaidd
  • arhoswch 2 fetr oddi wrth unrhyw un nad ydych yn byw gyda nhw

Dylai pawb ddilyn y canllawiau hyn p'un a ydynt wedi cael brechlyn COVID-19 ai peidio.

Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn y bydd angen i bob un ohonom ei wneud ar Lefel Rhybudd 4 ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yn Beth sydd angen i chi ei wneud ar lefel rhybudd 4.

I gael rhagor o wybodaeth am brofion COVID-19 ym Mhowys, ewch i wefan y bwrdd iechyd yn https://biap.gig.cymru/homepage-pop-up-cy/profi-coronafeirws/