Neidio i'r prif gynnwy

Cynnydd o 48% yn nifer yr ysmygwyr sy'n gofyn am cymorth i roi'r gorau i ysmygu yn ystod y pandemig

Graffig cartŵn - pedwar o bobl â thestun - ydych chi

Yn ystod y pandemig COVID-19, mae cynnydd o 48% wedi bod yn nifer yr ysmygwyr sy'n gofyn am gymorth i roi'r gorau i ysmygu trwy ddefnyddio Helpa Fi I Stopio (HMQ), sef gwasanaeth am ddim y GIG. Gan fod y risg o ddal heintiau anadlol, gan gynnwys COVID-19, yn uwch i ysmygwyr o’u cymharu â phobl nad ydynt yn ysmygu, ni fu erioed amser gwell i roi'r gorau i ysmygu!

Ym Mhowys, gallwch gael gafael ar gymorth am ddim yn awr i roi'r gorau i ysmygu heb i chi orfod symud o’ch cartref. Gall ein cynghorwyr Helpa Fi I Stopio eich helpu chi i gychwyn ar eich taith rhoi'r gorau i ysmygu trwy ddarparu cefnogaeth un i un naill ai ar-lein trwy gyswllt fideo neu drwy gymorth dros y ffôn, gan roi'r opsiwn i chi fynychu eich sesiynau cymorth o gartref, o’r gwaith neu o’r ysgol - Eich dewis CHI yw e.

Os hoffech ddarganfod rhagor am y gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu sydd ar gael ym Mhowys, ffoniwch 0800 085 2219 heddiw neu ewch i’n gwefan - www.helpafiistopio.cymru/

 

Darganfyddwch fwy am y gefnogaeth a ddarperir gan Helpa Fi I Stopio yn ystod y pandemig yn y ffeithlun hwn.