Mae'r hydref wedi cyrraedd a'r gaeaf ar y ffordd. Mae'n amser gwych i gadw'n gynnes ac ymlacio, ond i lawer gall y dyddiau byrrach a'r nosweithiau hirach effeithio ar gwsg.
Wrth i oriau golau dydd leihau, gall ein clociau corff mewnol - neu rythmau beunyddiol - colli cydbwysedd, gan ein gadael yn teimlo'n gysglyd ac yn ddiog yn ystod y dydd, neu'n effro'n llwyr yn y nos pan ddylem fod yn ymlacio.
Ond mae newyddion da. Gall ychydig o arferion syml eich helpu chi gadw cloc eich corff mewn cydamseriad, sy'n golygu cwsg dyfnach trwy'r misoedd tywyllach hyn.
Ceisiwch fynd allan o fewn awr o ddeffro, hyd yn oed ar ddiwrnodau cymylog. Mae dos o olau naturiol yn helpu ailosod eich rhythm beunyddiol ac yn rhoi hwb i fywiogrwydd.
Mae bywydau prysur yn golygu deffro'n aml cyn i’r haul wawrio, ac yna gweithio tu fewn drwy'r dydd. Gall blwch golau efelychu golau’r haul – anelwch at 20–30 munud o amlygiad yn oriau’r bore i efelychu golau dydd.
Cysondeb sy’n bwysig. Ewch i'r gwely a deffro ar yr un pryd bob dydd, hyd yn oed ar benwythnosau, i sefydlogi'ch cloc mewnol a hybu ansawdd cwsg da.
Gall sgrolio’n ddiddiwedd bob nos eich gadael chi'n teimlo'n flinedig yn emosiynol, a gall golau glas o ffonau a chyfrifiaduron ohirio cynhyrchu melatonin, yr hormon sy'n codi'n naturiol yn y nos i hyrwyddo cwsg. Rhowch gynnig ar newid i fodd nos, defnyddiwch hidlwyr golau glas neu – yn well fyth – diffodd yn gyfan gwbl.
Yn lle syllu ar sgrin, pylwch y goleuadau, darllenwch lyfr neu ymestynnwch yn ysgafn cyn mynd i'r gwely. Mae deiet yn bwysig hefyd – ceisiwch osgoi caffein a phrydau mawr yn hwyr yn y dydd.
Cymorth gyda chwsg gan GIG Cymru
Os oes angen ychydig o help arnoch i gwympo i gysgu, gall rhaglen ‘Gofod i Gwsg’ SilverCloud helpu.
Mae'n rhaglen hunangymorth ar-lein yn seiliedig ar therapi gwybyddol ymddygiadol, sydd wedi'i phrofi'n glinigol i'ch helpu chi deimlo'n well.
Gall unrhyw un 16 oed a hŷn hunanatgyfeirio heb weld meddyg teulu. 20 munud y dydd, dair gwaith yr wythnos yw'r cyfan sydd ei angen. Gallwch weithio arno ar unrhyw ddyfais symudol, unrhyw bryd, unrhyw le – hyd yn oed yn y gwely!
Dysgwch fwy a hunanatgyfeiriwch yma
Rhyddhawyd: 13/11/2025