Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys

Fel sefydliad sy’n falch o wasanaethu a chyflogi pobl o bob cefndir ethnig ac â phob ffydd, rydym wedi’n brawychu gan lefel y trais, yr hiliaeth a’r dinistr sydd wedi digwydd yn ystod y dyddiau diwethaf mewn sawl rhan o’r DU. Rydym yn cydymdeimlo â’r holl deuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan y trychinebau diweddar hyn.

Mae gan y GIG hanes balch o groesawu amrywiaeth, ac mae hynny wedi bod yn elfen allweddol o’i lwyddiant. Mae ein hamrywiaeth yn ein huno ni ac yn sicrhau ein bod yn sefydliad cryf.

Fel Bwrdd Iechyd, ein dyletswydd yw darparu gofal a chymorth i unrhyw un sy’n defnyddio ein gwasanaethau. Gan ystyried digwyddiadau diweddar ledled y wlad, dymunwn atgoffa pobl nad yw’r Bwrdd Iechyd yn goddef unrhyw hiliaeth na gwahaniaethu o unrhyw fath tuag at ein staff neu ddefnyddwyr ein gwasanaethau.

Byddwn yn ymdrechu bob amser i sicrhau bod y bobl sy’n defnyddio neu’n darparu ein gwasanaethau ledled Powys yn gallu gwneud hynny mewn amgylchedd sydd mor ddiogel â phosibl. Mae’n bwysig i ni oll barhau i barchu a chefnogi ein gilydd yn ystod y cyfnod anodd hwn.


Ni ddylai neb orfod byw gyda'r ofn a phryder y mae troseddau casineb yn ei achosi.

Os yr ydych chi wedi cael eich effeithio gan y digwyddiadau diweddar - Gall Canolfan Cymorth Casineb Cymru helpu.

0300 30 31 982

Canolfan Cymorth Casineb Cymru


Mae Heddlu Dyfed-Powys hefyd wedi cyhoeddi datganiad ynglŷn ag anhrefn cenedlaethol a pheryglon gwybodaeth anghywir: Datganiad Heddlu Dyfed-Powys yn Mynd i’r Afael ag Anhrefn Cenedlaethol a Pheryglon Gwybodaeth Anghywir | Heddlu Dyfed-Powys

 

Cyhoeddwyd: 07/08/2024