Ar ôl 42 mlynedd o ysmygu, mae Deborah o'r diwedd wedi troi ei chefn ar sigaréts gyda diolch i gefnogaeth gan dîm rhoi'r gorau i ysmygu. Ers cofleidio ei bywyd di-fwg dywedodd Deborah, "mae'r canlyniadau sy'n newid bywyd a gewch yn anhygoel" ac mae hi bellach yn gobeithio ysbrydoli eraill trwy ddod yn Hyrwyddwr Rhoi’r Gorau i Ysmygu yn y Gymuned.
I ddechrau, roedd Deborah yn amheus y byddai'n llwyddo i roi'r gorau i ysmygu, ond gyda chymorth Alex, Ymgynghorydd Rhoi’r Gorau i Ysmygu Powys, dechreuodd gymryd camau i'r cyfeiriad cywir. Ar hyd y ffordd roedd Deborah yn wynebu heriau, yn enwedig wrth geisio curo'r chwantau peth cyntaf yn y bore ac ar ôl pryd o fwyd neu ddelio â symptomau tynnu’n ôl fel teimlo'n anniddig ac yn orbryderus i ddechrau. Ond roedd Alex wrth law drwy gydol y broses i roi cyngor a chefnogaeth a nawr nid yw'n profi'r chwantau na'r symptomau tynnu'n ôl hyn o gwbl.
Wrth siarad am sut mae hi'n teimlo ar ôl rhoi'r gorau iddi, meddai Deborah; "Ar y cyfan rwy'n teimlo bod fy lefelau egni wedi gwella, mae fy anadlu wedi dod yn haws, gallaf gerdded ymhellach, ac mae fy arogl a'm blas yn llawer gwell."
Os ydych chi'n ysmygwr ac yn edrych i roi'r gorau iddi, mae tîm Rhoi'r Gorau i Ysmygu Powys yma i'ch helpu chi bob cam o'r ffordd. Gall ein cynghorwyr di-fwg roi'r gefnogaeth a'r arweiniad sydd eu hangen arnoch chi i roi'r gorau i ysmygu. Nid yw bod yn ddi-fwg yn dasg hawdd, ond gyda'r gefnogaeth a'r adnoddau cywir, mae'n bosibl.
I hunanatgyfeirio, gallwch gysylltu â Helpa Fi i Stopio | Gwasanaethau Rhoi'r Gorau i Ysmygu yng Nghymru ar 0800 085 2219 neu tecstiwch HMQ i 80818 neu gallwch e-bostio stopsmoking.powys@wales.nhs.uk
Cyhoeddwyd: 20/12/2024