Neidio i'r prif gynnwy

Dechrau yn y brifysgol? Rhowch hwb i'ch iechyd meddwl o'r cychwyn cyntaf

Mae

Rydych chi wedi cael eich canlyniadau, wedi cael cynnig lle, ac mae dechrau o'r newydd ar y gorwel. Rydych chi'n mynd i'r brifysgol!

Does dim amheuaeth amdano - mae'n gam enfawr mewn bywyd. Does dim rhyfedd gall y cyfnod hwn yn eich bywyd fod yn gorwynt o ddisgwyliad, cyffro a phryder.

Pam ei fod mor heriol yn feddyliol?

“Rydych chi’n wynebu newid enfawr yn eich trefn arferol,” meddai Sian Bengeyfield, rheolwr iechyd meddwl a chwnsela ym Mhrifysgol Abertawe. “O ddod o hyd i’ch ffordd o gwmpas y campws i wybod ble i fynd i siopa - mae popeth yn newydd, ac i rai myfyrwyr gall hynny fod yn anodd iawn i lywio.”

Gall y disgwyliad mai’r brifysgol fydd 'blynyddoedd gorau eich bywyd' hefyd greu pwysau. A gall hiraeth am adref, gwneud ffrindiau newydd a jyglo cyllid ychwanegu at y baich iechyd meddwl - ond gall ychydig o baratoi wneud gwahaniaeth enfawr.

“Dewch i ddiwrnodau agored y brifysgol er mwyn i chi gael teimlad o’r lle ymlaen llaw,” meddai Sian. “Edrychwch ar yr opsiynau llety ac edrychwch o gwmpas yr ardal. Gallech chi hyd yn oed ymarfer gwneud prydau bwyd gartref yn lle cael mam a dad i ddod â bwyd i chi!”

Os ydych chi wedi bod yn oedi ceisio cymorth iechyd meddwl, nawr yw’r amser

Efallai eich bod chi wedi bod yn teimlo'n isel neu jyst yn sylwi bod pethau'n teimlo'n anoddach nag y dylen nhw? Os ydych chi, mae'n bryd estyn allan. Peidiwch ag aros nes eich bod mewn argyfwng – gall ceisio cymorth nawr atal problemau mwy difrifol rhag datblygu.

Mae Gwasanaeth CBT Ar-lein GIG Cymru yn darparu cymorth hyblyg a rhad ac am ddim trwy SilverCloud. Mae yna amrywiaeth o raglenni hunangymorth dan arweiniad gydag offer i helpu rheoli gorbryder, hwyliau isel, straen, delwedd y corff a phroblemau cysgu cyn i bethau fynd allan o reolaeth. Nid oes angen i chi weld meddyg teulu i gofrestru, ac nid oes rhestr aros.

“Os oes gennych chi eisoes wasanaethau sy’n gysylltiedig â’ch iechyd meddwl, siaradwch â nhw a gweld a oes angen i chi drosglwyddo’ch cefnogaeth i ble byddwch chi’n byw,” meddai Sian.

“Archwiliwch pa gymorth iechyd meddwl fydd ar gael yn eich prifysgol, a rhowch wybod i’r tîm lles am eich sefyllfa – efallai y byddant yn gallu gwneud cais am gymorth ychwanegol i chi o’r Lwfans Myfyrwyr Anabl, a gallant roi addasiadau rhesymol ar waith o’r diwrnod cyntaf i wneud bywyd prifysgol yn haws i ymdopi ag ef.”

Beth allai fod ar eich meddwl?

Efallai eich bod chi'n poeni am ffitio i mewn, cadw i fyny â bywyd academaidd, neu ymdopi i ffwrdd o amgylchedd cyfarwydd. Ond cofiwch eich bod chi ymhell o fod ar eich pen eich hun, ac mae'n iawn os yw'n cymryd amser i addasu.

I Sian, unwaith eto, paratoi yw'r allwedd. “Efallai y byddwch chi’n gweld bod grŵp WhatsApp ar gyfer y llety rydych chi’n symud iddo, felly gallwch chi ddod i adnabod eich cyd-letywyr cyn cyfarfod wyneb yn wyneb,” meddai hi. “Yn yr un modd, gallwch edrych ar grwpiau Facebook ar gyfer eich cwrs.”

Cofiwch, os ydych chi'n cael trafferth gyda gorbryder, fod gan SilverCloud raglen wedi'i chynllunio'n benodol ar gyfer myfyrwyr i'ch helpu chi i godi uwchlaw meddwl negyddol. Dewch o hyd iddo yma.

Poeni am alcohol?

Efallai eich bod chi'n poeni am gael eich rhoi dan bwysau i yfed, ond nid yw'n ofyniad ar gyfer amser da ac mae'n fyth bod bywyd myfyriwr yn un o grwydro tafarndai diddiwedd. Y gwir amdani yw bod llawer o fyfyrwyr yn yfed ychydig iawn neu ddim o gwbl.

“Dewch o hyd i’ch criw,” meddai Stu Gray, sy’n gweithio gyda Sian ar y tîm lles ym Mhrifysgol Abertawe. “Ddyddiau hyn, mae Undebau Myfyrwyr yn cynnig llawer mwy o ddigwyddiadau di-alcohol.

“Dylech chi allu gofyn ymlaen llaw i gael eich rhoi mewn fflat di-alcohol. Os byddwch chi'n symud i mewn i'ch llety prifysgol ac yn darganfod eich bod chi'n rhannu gyda llwyth o anifeiliaid parti, gallwch chi ofyn am gael eich symud os nad yw'n addas i chi.

Os ydych chi'n awyddus i ymchwilio i'ch perthynas ag alcohol, mae rhaglen SilverCloud ar gyfer hynny hefyd. Edrychwch ar ‘Gofod rhag Alcohol’.

Poeni am arian?

Gall ceisio rheoli arian pan mae pethau'n dynn achosi straen. “Ceisiwch gymorth gan dîm cyngor ariannol eich prifysgol os ydych chi’n poeni,” cyngor Sian.

Mae Stu yn argymell cael swydd ran-amser i leddfu'r baich ariannol. “Os gallwch chi ddod o hyd i’r cydbwysedd cywir rhwng gwaith ac astudiaethau, gall fod yn ffordd wych o ennill sgiliau a chwrdd â phobl newydd,” meddai. Gall rhaglen Gofod rhag Pryderon am Arian SilverCloud eich helpu chi ddeall arferion gwario, teimlo mwy o reolaeth dros yr hyn sydd yn eich waled a lleddfu gorbryder ariannol.

Dechreuwch adeiladu gwydnwch nawr

Does dim rhaid i chi fod yn stryglo er mwyn dechrau defnyddio SilverCloud. Mae rhaglen Gofod ar gyfer Gwydnwch wedi'i chynllunio gyda myfyrwyr mewn golwg. Yn ogystal â'ch helpu i nodi eich gwerthoedd, eich angerddau a'ch cryfderau, bydd yn rhoi hwb i'r batris iechyd meddwl hynny i fod yn barod ar gyfer wythnos y glas.

Cymerwch bip ar ganllaw bach rhaglen myfyrwyr SilverCloud

Edrychwch ar yr hyn sydd ar gael drwy lawrlwytho canllaw PDF i raglenni myfyrwyr SilverCloud yma. Fe welwch chi gefnogaeth ar gyfer gorbryder, straen ac iselder – ac ar gyfer meithrin gwydnwch.

Mae rhaglenni oedolion SilverCloud ar gael i unrhyw un yng Nghymru sydd yn 16 oed neu'n hŷn. Porwch yr ystod lawn a chofrestrwch am ddim yma.

 

Cyhoeddwyd: 05/09/2025