Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiad Holi ac Ateb Ar-lein gyda Carol Shillabeer ar 14 Medi 2021

Fe'ch gwahoddir i ddigwyddiad ar-lein gyda Carol Shillabeer rhwng 5.30pm a 6.30pm ddydd Mawrth 14 Medi 2021. Bydd hyn yn gyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am ymateb COVID-19 ym Mhowys yn ogystal â datblygiadau ehangach y GIG.

Sut mae ymuno?

Gallwch ymuno â'r sesiwn o'r mwyafrif o borwyr gwe trwy glicio ar y ddolen hon .

Pryd ydw i'n ymuno?

Mae croeso i chi ymuno ychydig cyn 5.30yp trwy glicio ar y ddolen uchod. Bydd y cyfarfod yn cychwyn ychydig ar ôl 5.30yp i ganiatáu amser i bobl ymuno.

Sut mae cymryd rhan?

Darperir y digwyddiad hwn trwy Microsoft Teams Live Event. Mae'n cynnwys swyddogaeth Holi ac Ateb sy'n eich galluogi i ofyn cwestiynau. Mae'n ddrwg gennym efallai na fydd gennym amser i ateb yr holl gwestiynau a godwyd, ond gobeithiwn y bydd y sesiwn yn rhoi cyfle i gwmpasu'r prif themâu.

Rwy'n cael trafferth ymuno

Bydd y sesiwn yn cael ei recordio fel ei fod ar gael i bobl sy'n cael trafferth ymuno, neu nad ydynt ar gael i ymuno â ni am 5.30yp.

Mae mwy o wybodaeth am fynychu Digwyddiad Microsoft Teams Live ar gael ar wefan Microsoft

Ni allaf fod yn bresennol - a fyddaf yn dal i allu gwylio?

Os na allwch ddod ar y diwrnod, gallwch wylio'r digwyddiad ar unrhyw adeg gan ddefnyddio'r ddolen we.

Sut alla i wylio'r sesiwn ddiwethaf ar 14 Gorffennaf?

Mae'r sesiwn ar 14 Gorffennaf ar gael ar ein sianel YouTube yn https://youtu.be/y_Z-iacy2WA

Rhannu:
Cyswllt: