Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiad Holi ac Ateb Ar-lein gyda Carol Shillabeer ar 4 Awst 2022

Fe'ch gwahoddir i ddigwyddiad Holi ac Ateb ar-lein rhwng 5.00yp a 6.00yh ddydd Iau 4 Awst 2022. Bydd hyn yn gyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am ddatblygiadau o fewn Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Sut mae ymuno?

Gallwch ymuno â'r sesiwn o'r mwyafrif o borwyr gwe trwy glicio ar y ddolen hon .

Pryd ydw i'n ymuno?

Mae croeso i chi ymuno ychydig cyn 5yp trwy glicio ar y ddolen uchod. Bydd y cyfarfod yn cychwyn ychydig ar ôl 5yp i ganiatáu amser i bobl ymuno.

Sut mae cymryd rhan?

Darperir y digwyddiad hwn trwy Microsoft Teams Live Event. Mae'n cynnwys swyddogaeth Holi ac Ateb sy'n eich galluogi i ofyn cwestiynau. Mae'n ddrwg gennym efallai na fydd gennym amser i ateb yr holl gwestiynau a godwyd, ond gobeithiwn y bydd y sesiwn yn rhoi cyfle i gwmpasu'r prif themâu.

Rwy'n cael trafferth ymuno

Bydd y sesiwn yn cael ei recordio fel ei fod ar gael i bobl sy'n cael trafferth ymuno, neu nad ydynt ar gael i ymuno â ni am 5yp.

Mae mwy o wybodaeth am fynychu Digwyddiad Microsoft Teams Live ar gael ar wefan Microsoft

Ni allaf fod yn bresennol - a fyddaf yn dal i allu gwylio?

Os na allwch ddod ar y diwrnod, gallwch wylio'r digwyddiad ar unrhyw adeg gan ddefnyddio'r ddolen we.

Rhannu:
Cyswllt: