Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiad Holi ac Ateb Ar-lein gyda Hayley Thomas ar 5 Gorffennaf 2023

Fe'ch gwahoddir i ddigwyddiad holi ac ateb ar-lein rhwng 5.15yp a 6yh ddydd Mercher 5 Gorffennaf, 75 mlynedd ers sefydlu'r GIG. Bydd hyn yn rhoi cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ddatblygiadau ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys ac i ddathlu gwaith y GIG dros y 75 mlynedd diwethaf. 

Sut ydw i'n ymuno?

Gallwch ymuno â'r sesiwn o'r rhan fwyaf o borwyr gwe trwy glicio ar y ddolen hon

Pryd ydw i'n ymuno?

Mae croeso i chi ymuno ychydig cyn 5.15yp drwy glicio ar y ddolen uchod. Bydd y cyfarfod yn dechrau toc wedi 5.15yp er mwyn rhoi amser i bobl ymuno.

Sut ydw i'n cymryd rhan?

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei ddarparu trwy Microsoft Teams Live Event. Mae'n cynnwys swyddogaeth Holi ac Ateb sy'n eich galluogi i ofyn cwestiynau. Mae’n ddrwg gennym efallai nad oes gennym amser i ateb yr holl gwestiynau a godwyd, ond gobeithiwn y bydd y sesiwn yn rhoi cyfle i ymdrin â’r prif themâu.

Rwy'n cael trafferth ymuno

Bydd y sesiwn yn cael ei recordio fel ei fod ar gael i bobl sy’n cael trafferth ymuno, neu sydd ddim ar gael i ymuno â ni am 5.15yp.

Mae rhagor o wybodaeth am fynychu Digwyddiad Microsoft Teams Live ar gael o wefan Microsoft

Ni allaf fod yn bresennol – a fyddaf yn dal i allu gwylio?

Os na allwch fynychu ar y diwrnod, gallwch wylio'r digwyddiad unrhyw bryd gan ddefnyddio'r ddolen we

Rhyddhawyd: 21/06/2023

Rhannu:
Cyswllt: