Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiad Lles Cymunedol a Gwybodaeth yng Ngilwern ar 2 Tachwedd 2023

Bydd Meddygfa Cangen Belmont yng Ngilwern yn cau o 30 Tachwedd 2023.

Bydd digwyddiad lles a gwybodaeth gymunedol yn cael ei gynnal ar ddydd Iau 2il Tachwedd yng Nghanolfan Gymunedol Gilwern o 3:30yb i 7yh i'ch helpu darganfod mwy am adnoddau a gwasanaethau lleol a all gefnogi eich iechyd a'ch lles.

Mae croeso cynnes i bawb. Bydd yn ddigwyddiad galw heibio, felly mae croeso i chi fynychu heb fod angen i chi drefnu ymlaen llaw gyda ni.

Mae croeso i chi rannu gwybodaeth am y digwyddiad hwn ag eraill yng nghymuned Gilwern. Lawrlwythwch poster ar gyfer y digwyddiad yma.

Dysgwch fwy am y newidiadau hyn o adran Meddygfa Cangen Belmont ar ein gwefan.

Rhannu:
Cyswllt: