Mae digwyddiadau lles cymunedol am ddim yn cael eu cynnal ar draws Powys.
Fel rhan o fenter ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys, mae prosiect 'Cadw'n Iach' ym Mhowys yn dod â gwasanaethau ac adnoddau lleol ynghyd, gyda'r nod o gryfhau cymunedau a rhoi'r dewisiadau a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar unigolion i fyw bywydau iachach, mwy boddhaus.
Gyda nifer o sefydliadau ar gael mewn un lle, mae'r digwyddiadau wedi'u cynllunio i gynyddu ymwybyddiaeth; addysgu cymunedau am wasanaethau, mentrau ac adnoddau ar gyfer iechyd a lles sy'n addas i'w hanghenion, ac sy'n cysylltu cymunedau; hyrwyddo perthnasoedd ymhlith preswylwyr, annog rhwydweithio, cydweithio, ac ymdeimlad cryfach o gymuned ledled Powys.
Bydd y digwyddiadau yn rhad ac am ddim ac yn cael eu cynnal yn:
Dywedodd Stuart Bourne, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus: “Mae 'Cadw'n Iach ym Mhowys' yn dwyn ynghyd gwasanaethau lleol er mwyn cefnogi a chryfhau ein cymunedau.
Mae'r digwyddiadau am ddim, ac maen nhw’n gyfle gwych i drigolion weld beth sydd ar gael iddynt i gefnogi a hyrwyddo eu hiechyd a'u lles.”
Mae'r rhai sydd eisoes yn cymryd rhan yn y digwyddiadau yn cynnwys, PAVO, Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, Cymru Gynnes, Gofal a Thrwsio Powys, Cymdeithas Alzheimer Cymru a mwy.
Gall sefydliadau sy'n dymuno cymryd rhan gofrestru am ddim drwy ebostio healthprotection@powys.gov.uk
Am fwy o wybodaeth, ewch i 'Cadw'n Iach' Powys - Cyngor Sir Powys
Rhyddhawyd: 04/02/2025