Mae'r diweddariad diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cadarnhau bod 85 o bobl o Bowys, yn anffodus, wedi marw gyda COVID-19 a amheuir neu a gadarnhawyd.
Mae hyn yn cynnwys 34 o bobl yn yr ysbyty, 45 o bobl mewn cartrefi gofal, a 6 o bobl yn eu cartref eu hunain. Mae hyn yn gynnydd o un o'r adroddiad diwethaf ar 26 Mai.
Mae pob marwolaeth, a phob bywyd, yn bwysig i ni.
Trwy ein Cynllun Pum Pwynt i ymateb i COVID19 ein nod yw achub bywydau gartref, mewn cartrefi gofal, mewn ysbytai ac ar draws y sir.