Neidio i'r prif gynnwy

Diogelu'r Nadolig ym Mhowys

Mae hi bron yn ‘Ddolig.

Ond mae Coronafeirws yn cynyddu’n gyflym eto, ledled Cymru. 

I ddiogelu eich hun ac eraill, nawr, peidiwch cymysgu ‘da phobl eraill.

Dim picio drws nesa’ am baned. Dim cwrdd â ffrind am goffi.

Stopiwch feddwl ‘wneith e ddim drwg i neb’ neu ‘fydd neb yn gwybod’.

A peidiwch gadael i draddodiadau’r ‘Dolig roi chi a’ch teulu mewn perygl.

Gweithredwch nawr, i beidio gwahodd coronafeirws I’ch cartref y Nadolig hwn.

Gadewch i ni Ddiogelu Cymru.

Rhannu:
Cyswllt: