Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar Amseroedd Aros ysbytai yn Lloegr: Camau nesaf i'w trafod yng Nghyfarfod y Bwrdd ar 29 Ionawr

Yn dilyn cyfarfod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar 10 Ionawr 2025, mae gwaith pellach wedi'i wneud i ystyried mesurau ychwanegol i wella'r sefyllfa ariannol eleni. Mae hyn yn cynnwys ystyriaeth bellach o'r opsiwn i ofyn i rai darparwyr GIG yn Lloegr arafu'r gwaith o ddarparu gofal wedi'i gynllunio gan gynnwys apwyntiadau cleifion allanol a gweithdrefnau cleifion mewnol.

Bydd argymhelliad wedi'i ddiweddaru yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd mewn cyfarfod cyhoeddus ar 29 Ionawr 2025. Mae'r agenda llawn a'r papurau ar gael o'n gwefan gyda'r cyfle i wylio'r cyfarfod yn fyw.

Mae'r papur yn argymell nad yw'r Bwrdd yn gweithredu unrhyw newidiadau i weithgarwch dewisol yn chwarter 4 2024/25, ac mae'n nodi bod angen rhagor o waith gyda darparwyr i adolygu'r dull o gomisiynu gweithgarwch yn 2025/26 o fewn yr adnoddau sydd ar gael.

Byddwn yn sicrhau bod penderfyniadau'r Bwrdd yn cael eu rhannu yn dilyn y cyfarfod ddydd Mercher.

Gwybodaeth i Gleifion

Ni wnaed unrhyw newidiadau i amseroedd aros ar gyfer atgyfeiriadau i ysbytai yn Lloegr.

Cynghorir cleifion i barhau i fynychu apwyntiadau fel yr arfer.

Gofynnwn yn garedig i chi beidio â chysylltu â'r bwrdd iechyd, eich darparwr ysbyty na'ch meddygfa i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pryd y bydd eich apwyntiad yn cael ei gynnal neu i gyflymu'ch apwyntiad oni bai bod eich symptomau wedi newid yn sylweddol. Byddwch yn parhau ar y rhestr aros a bydd yr ysbyty yn cysylltu â chi i drefnu eich apwyntiad.

Bydd cyfarfod y bwrdd iechyd ar 29 Ionawr yn cael argymhelliad i beidio â gweithredu mesurau amser aros yn Lloegr yn 2024/25. Byddwn yn sicrhau bod penderfyniadau'r Bwrdd yn cael eu rhannu yn dilyn y cyfarfod.

Os ydych chi ar restr aros ar hyn o bryd, mae’r adran Aros yn Iach ar ein gwefan yn darparu canllawiau defnyddiol ac awgrymiadau gwych:

Er enghraifft, mae Ychwanegu at Fywyd yn asesiad iechyd personol, ar-lein sy’n cynnig llawer o wybodaeth werthfawr wedi’i theilwra a’i datblygu i’ch helpu chi gael y gorau o’ch triniaeth gyda’r GIG. Gall gweithredu nawr i wella eich iechyd corfforol a lles meddyliol nid yn unig yn lleihau’r risg o unrhyw gymhlethdodau yn ystod eich triniaeth, ond bydd hefyd yn fuddiol i’ch adferiad ac iechyd hirdymor, yn eich helpu chi deimlo’n well yn gyflymach. I gwblhau’r asesiad iechyd heddiw, ewch i wefan Ychwanegu at Fywyd.

 

Rhyddhawyd: 27/01/2025