Mae Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys GIG Cymru wedi cyhoeddi’r diweddariad canlynol ar ddatblygiad Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys y GIG (EMRTS Cymru) ac Elusen Ambiwlans Awyr Cymru:
Annwyl Randdeiliad,
Ar ôl bron i 14 wythnos o ymgysylltu â'r cyhoedd, hoffwn ddiolch yn gyntaf i chi am gymryd rhan yng Ngham 1 Adolygiad Gwasanaeth GCTMB.
Mae'r cam cyntaf hwn, a ddechreuodd ym mis Mawrth 2023, wedi canolbwyntio ar wrando ar eich sylwadau, ymholiadau a chasglu adborth ar sut i ddatblygu opsiynau i wella'r gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru ymhellach – gwasanaeth sy'n esiampl o ragoriaeth ac sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr heb amheuaeth.
Er bod Cam 1 wedi cymryd mwy o amser na'r hyn a gynlluniwyd yn wreiddiol, mae hwn yn fater cymhleth ac rwyf wedi pwysleisio mai fy mlaenoriaeth yw gwneud hyn yn drylwyr, yn hytrach na chael fy rhwymo gan unrhyw amserlenni mympwyol.
Rwyf wedi parhau i gwrdd ag amryw randdeiliaid, gan gynnwys cynrychiolwyr etholedig ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, yn ogystal ag arweinwyr grwpiau cymunedol drwy gydol y broses yn ogystal â defnyddio'r llwybrau llywodraethu sefydledig, megis Grwpiau Cyfeirio Rhanddeiliaid y Byrddau Iechyd, fel rhan o'r dull ymgysylltu cyffredinol ledled Cymru. Ar hyn, hoffwn ddiolch i chi i gyd am eich cyfraniadau wrth gynnal a helpu i gydlynu'r trefniadau lleol hyn yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf.
Rwyf wedi bod yn ddiolchgar am y ddeialog adeiladol ym mhob sesiwn yr ydych wedi cymryd rhan ynddynt - galw heibio, cyfarfodydd cyhoeddus yn bersonol, a rhith/ar-lein - sydd wedi bod o gymorth mawr i mi ac rwyf wedi gwerthfawrogi'r amser a'r diddordeb a roddwyd gennych chi i gyd ar y mater hwn. Mae'r angerdd am y gwasanaeth ambiwlans awyr yn glir ac mae nod cyffredin yma i wneud gwasanaeth gwychhyd yn oed yn well i'n cymunedau yng Nghymru.
Ymrwymais ar ddechrau'r broses hon i gynnal ymgysylltiad llawn a thryloyw a gobeithio eich bod yn teimlo fy mod wedi anrhydeddu hyn drwy gydol Cam 1. Rwyf wedi bod yn glir nad oes penderfyniad wedi'i wneud a bod gwrando ar y cyhoedd yn llunio'r ffordd y caiff opsiynau, ar gyfer cyfluniad y gwasanaeth yn y dyfodol, eu datblygu ac rwyf am gadarnhau bod hyn yn parhau'n wir.
Yn dilyn Cam 1, mae’r gwaith i ddatblygu ystod o opsiynau yn ffocws i fy nhîm a minnau yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, pob un wedi'i lywio gan yr adborth hyd yn hyn yn ogystal â’r modelu data cyflenwol sydd bellach ar y gweill.
Ar ôl datblygu'r opsiynau, byddaf yn dod yn ôl i'r cyhoedd fel Cam 2 ar gyfer eich sylwadau ar y rhain a fydd yn fy helpu i gyrraedd opsiwn a argymhellir ac a ffefrir. Yna, byddaf yn cymryd yr opsiwn hwn a argymhellir i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (PGAB) ar gyfer penderfyniad.
Rwy'n rhagweld y bydd Cam 2 yr ymgysylltu â'r cyhoedd yn dechrau yn yr hydref ond cyn gynted ag y bydd dyddiadau a manylion lleoliad wedi'u cadarnhau ar waith ar gyfer Cam 2, byddwn yn anfon diweddariadau atoch chi, ein rhanddeiliaid, yn ogystal â chyhoeddi'r holl ddiweddariadau ar wefan y PGAB fel yr ydym wedi'i wneud trwy gydol yr ymgysylltu.
Wrth ein helpu i gynllunio sesiynau Cam 2, rhowch unrhyw syniadau sydd gennych am sut oedd sesiynau Cam 1 i chi. Mae hyn yn ein helpu i ddeall sut y gallwn sicrhau ein bod yn gwneud y rhain mor effeithiol â phosibl i bawb dan sylw a gallwch wneud hyn o'r ddolen hon:
Nodyn atgoffa terfynol y gellir darparu adborth fel rhan o Gam 1 hyd at ac yn cynnwys dydd Gwener 16 Mehefin, 2023 trwy:
Hoffwn ddiolch yn ddiffuant unwaith eto am eich diddordeb, amser a chyfraniadau gwerthfawr ar y mater pwysig hwn.
Yr eiddoch yn gywir
Stephen Harrhy,
Prif Gomisiyndd y Gwasanaethau Ambiwlans
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys .
Edrychwch ar ein tudalen Adolygiad Ambiwlans Awyr am yr holl erthyglau newyddion a diweddariadau am yr adolygiad o wasanaethau ambiwlans awyr yng Nghymru.
Cyhoeddwyd: 13/06/23