Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar ddatblygiad Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys y GIG (EMRTS Cymru) ac Elusen Ambiwlans Awyr Cymru (24 Mawrth 2023)

Mae Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys GIG Cymru wedi cyhoeddi’r diweddariad canlynol ar ddatblygiad Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys y GIG (EMRTS Cymru) ac Elusen Ambiwlans Awyr Cymru:

 

Annwyl randdeiliad allweddol

Mae’n bleser gennyf gadarnhau’r dyddiadau cyntaf ar gyfer sesiynau ymgysylltu â’r cyhoedd y Gwasanaethau Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (GCTMB) sydd bellach i’w gweld ar webfan PGAB.

Mae’r amserlen yn dangos sut rydym yn cynnig cymysgedd o sesiynau ymgysylltu â’r cyhoedd i gynnwys cyfarfodydd cyhoeddus wyneb yn wyneb, sesiynau galw i mewn, a sesiynau rhithwir ar-lein gan roi amrywiaeth o opsiynau i bobl ddarparu adborth yn ystod cyfnod o chwe wythnos.

Yn ogystal â’r sesiynau cyhoeddus ar yr amserlen, byddwn hefyd yn defnyddio strwythurau ymgysylltu sefydledig Grwpiau Cyfeirio Rhanddeiliaid y Byrddau Iechyd a’r Cynghorau Iechyd Cymuned (CIC – i ddod yn Llais yn fuan o Ebrill 01, 2023) a grwpiau ffocws sampl cynrychioliadol.

Mae rhanddeiliaid wedi bod â diddordeb mawr yn Adolygiad Gwasanaeth GCTMB ac rwy’n ddiolchgar am y cyfraniadau a wnaed hyd yma at lunio’r broses ymgysylltu sy’n dangos sut rydym wedi gwrando ar randdeiliaid ac wedi ystyried yr awgrymiadau hyn. Hoffwn ddiolch i’r rhai sydd wedi ein cefnogi i wneud y trefniadau hyn mewn ardaloedd lleol.

Rydym yn disgwyl rhai cadarnhad o leoliad o hyd ac felly byddwn yn diweddaru'r amserlen ar y wefan cyn gynted ag y byddwn yn ei dderbyn ac yn ei rannu gyda chi. Byddem hefyd yn ddiolchgar o unrhyw gymorth wrth raeadru'r wybodaeth i sicrhau bod hyn yn cael ei gyfathrebu'n eang.

Yn ogystal â’r amserlen ymgysylltu yma, rwy’n awyddus i dderbyn cynigion o unrhyw leoliadau ychwanegol gan randdeiliaid sy’n teimlo y byddai’n fuddiol eu hystyried gan fy mod am i gynifer o bobl â phosibl ddweud eu dweud. Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn ein cynnal e-bostio i wneud trefniadau gyda fy nhîm.

Bydd Adolygiad Gwasanaeth GCTMB yn canolbwyntio ar wneud yn siŵr bod y cleifion sydd angen y gwasanaeth gofal critigol pwysig hwn yn gallu cael mynediad ato ni waeth ble maent yn byw yng Nghymru neu pan fydd ei angen arnynt. Gwyddom fod y GCTMB yn achub bywydau a bod cleifion sy’n cael eu trin gan y gwasanaeth yn gwella’n well ac yn gyflymach, felly bydd yr Adolygiad diduedd hwn yn ystyried sut y gallai cymaint o bobl â phosibl yng Nghymru elwa o’r gwasanaeth hwn, yn ogystal ag ystyried y defnydd mwyaf effeithiol o sgiliau clinigol ac adnoddau eraill.

Ers i mi gael fy mhenodi gan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys i gynnal Adolygiad Gwasanaeth GCTMB, mae fy nhîm wedi bod yn gosod y sylfeini ar gyfer ymgysylltu Cymru gyfan a fydd yn archwilio sut y gellid manteisio i’r eithaf ar weithgarwch ychwanegol o’r canolfannau presennol ac archwilio opsiynau i wella'r gwasanaeth ymhellach.

Yn barod ar gyfer yr ymgysylltu hwn, bu cryn dipyn o wybodaeth ar ein gwefan PGAB sy'n cynnwys fideo sy’n esbonio ac adran Cwestiynau Cyffredin fanwl am y Gwasanaeth gan ein bod yn cydnabod bod llawer o wybodaeth gymhleth i'w chyfleu am yr agweddau clinigol a gweithredol o sut mae'r gwasanaeth yn gweithio nawr y bydd angen eu deall er mwyn rhoi adborth. Rwy’n annog pawb yn fawr i ddefnyddio’r wybodaeth hon cyn mynychu unrhyw un o’r sesiynau ymgysylltu gan y dylai helpu i egluro unrhyw ymholiadau.

Mae yna hefyd ganllaw ar sut i fynychu'r cyfarfodydd cyhoeddus rhithwir, ar-lein gan ddefnyddio Timau Microsoft ar gyfer y rhai sy'n anghyfarwydd â'r platfform.

Mae’r holl ddiweddariadau briffio a gyhoeddwyd yn flaenorol yn cael eu cyhoeddi yn Gymraeg a Saesneg ar wefan PGAB, ond gall unrhyw un a hoffai dderbyn copi wedi’i e-bostio’n uniongyrchol anfon e-bost yn gofyn am gael ei ychwanegu at ein rhestr ddosbarthu.

Diolch i chi am eich diddordeb parhaus yn yr Adolygiad Gwasanaeth GCTMB.

Diolch yn fawr

Yr eiddoch yn gywir

Stephen Harrhy, 
Prif Gomisiyndd y Gwasanaethau Ambiwlans

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys .

Edrychwch ar ein tudalen Adolygiad Ambiwlans Awyr am yr holl erthyglau newyddion a diweddariadau am yr adolygiad o wasanaethau ambiwlans awyr yng Nghymru.

 

Cyhoeddwyd 24/03/23

Rhannu:
Cyswllt: