Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar ddatblygiad Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru) ac Elusen Ambiwlans Awyr Cymru

Mae Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys GIG Cymru wedi cyhoeddi’r diweddariad canlynol ar ddatblygiad Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys y GIG (EMRTS Cymru) ac Elusen Ambiwlans Awyr Cymru:

"Ystyriwyd cyfle posibl i ddatblygu gwasanaeth ar gyfer y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (GCTMB Cymru) yng nghyfarfod Cyd-bwyllgor y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (EASC) (sy’n cynnwys Prif Weithredwyr byrddau iechyd) ar 6 Medi.

Cytunwyd y byddai Prif Gomisiynydd y Gwasanaethau Ambiwlans (Stephen Harrhy) yn arwain proses annibynnol i sicrhau bod pob barn yn cael ei hystyried a bod y materion allweddol yn cael eu deall, gyda’r bwriad o wneud argymhelliad ffurfiol i aelodau EASC mewn cyfarfod o’r Cydbwyllgor yn y dyfodol.

Mae'r Comisiynydd ar hyn o bryd yn gweithio gyda'r Cynghorau Iechyd Cymuned i egluro'r broses. Bydd y gwaith yn cynnwys cyfathrebu’n eang â rhanddeiliaid gan gynnwys cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb lle bo angen i sicrhau bod yr holl safbwyntiau’n cael eu hystyried yn y broses gwneud penderfyniadau ac i sicrhau bod materion allweddol yn cael eu deall cyn i’r penderfyniad terfynol gael ei wneud."

Mae rhagor o wybodaeth gan gynnwys briff i randdeiliaid ar gael ar wefan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys.

Rhannu:
Cyswllt: