Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar ddatblygiad Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru) ac Elusen Ambiwlans Awyr Cymru (10 Tachwedd 2022)

Mae Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys GIG Cymru wedi cyhoeddi’r diweddariad canlynol ar ddatblygiad Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys y GIG (EMRTS Cymru) ac Elusen Ambiwlans Awyr Cymru:


Annwyl randdeiliad allweddol

Roeddwn yn meddwl y gallai fod yn ddefnyddiol rhoi’r wybodaeth diweddaraf ichi am y sefyllfa yn ymwneud â’r cynnig gan y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru) mewn partneriaeth ag Elusen Ambiwlans Awyr Cymru i ddatblygu’r gwasanaeth.

Cafodd y cynnig cychwynnol ei ystyried gan Bwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys PGAB ar 8 o Dachwedd. Yn y cyfarfod gofynnodd yr Aelodau am fwy o graffu cyn cymryd camau pellach. Bwriedir cynnal y cyfarfod nesaf a 6ed o Ragfyr 2022.  

Rwy’n parhau i weithio gyda’r Cynghorau Iechyd Cymuned (CIC) yng Nghymru i fod yn glir ynghylch y gofynion ar gyfer y broses ymgysylltu y bydd angen eu dilyn ar ol cadarnhad gan aelodau y PGAB (EASC).

Byddaf yn darparu diweddariadau pellach maes o law. 

Diolch yn fawr iawn am y sylwadau a'r ymholiadau pwysig yr ydym wedi'u derbyn ar ein gwefan. Os oes gennych ymholiadau neu awgrymiadau pellach defnyddiwch y ddolen ganlynol: https://pgab.gig.cymru/gwasanaethau-a-gomisiynir/emrts-cymru/cdg/

Diolch yn fawr 

Yr eiddoch yn gywir
Stephen Harrhy, Prif Gomisiyndd y Gwasanaethau Ambiwlans


Mae rhagor o wybodaeth gan gynnwys briff i randdeiliaid ar gael ar wefan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys.

Ewch i'n tudalen Adolygiad Ambiwlans Awyr i holl erthyglau newyddion a diweddariadau am yr adolygiad o wasanaethau ambiwlans awyr yng Nghymru.