Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar ddatblygiad Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru) ac Elusen Ambiwlans Awyr Cymru - 3 Tachwedd 2022

Mae Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys GIG Cymru wedi cyhoeddi’r diweddariad canlynol ar ddatblygiad Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys y GIG (EMRTS Cymru) ac Elusen Ambiwlans Awyr Cymru:

"Diolch i chi am fynegi diddordeb i ddatblygu gwasanaeth arfaethedig ar gyfer y gwasanaeth cenedlaethol pwysig a ddarperir gan y Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru) ac Elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

Bydd y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (PGAB / EASC) yn derbyn y cynnig i’w ystyried a’i drafod yn y cyfarfod ar 8 Tachwedd 2022.

Ni fydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud tan y flwyddyn newydd.

Mae'r agenda a'r adroddiadau ar gael ar wefan PGAB EASC: https://easc.nhs.wales/the-committee/meetings-and-papers/november-2022/  

Bydd cyfarfod y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys yn cael ei ffrydio'n fyw a bydd dolen ar gael yn fuan yma: https://easc.nhs.wales/the-committee/meetings-and-papers/   

Mae copi o'r papur clawr ar gyfer PGAB ar cynnig i ddatblygu Gwasanaeth EMRTS Cymru ar gael yma: (yn uniaith Saesneg yn unig): https://easc.nhs.wales/commissioning/emrts/sdp/

Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth i'r gwaith fynd ymlaen."


Mae rhagor o wybodaeth gan gynnwys briff i randdeiliaid ar gael ar wefan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys.

Rhannu:
Cyswllt: