Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar ddatblygiad Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys y GIG (EMRTS Cymru) ac Elusen Ambiwlans Awyr Cymru (8 Mawrth 2023)

Mae Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys GIG Cymru wedi cyhoeddi’r diweddariad canlynol ar ddatblygiad Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys y GIG (EMRTS Cymru) ac Elusen Ambiwlans Awyr Cymru:

 

 

Gweler Nodyn Briffio 6 ynghlwm, sy'n ddiweddariad ar y sefyllfa sy'n ymwneud â'r gwaith ar y Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (GATMB) mewn partneriaeth ag Elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

Cafodd y Cynnig Datblygu Gwasanaeth cychwynnol ei ystyried gan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (PGAB) ar 8 Tachwedd a gofynnodd yr Aelodau am fwy o graffu cyn y gellid cymryd camau pellach. Rhoddwyd adroddiad diweddaru i’r PGAB ar 6 Rhagfyr 2022. Cytunwyd ar bedwar maes ar gyfer craffu:

1. Darparu’r GATMB i boblogaeth Cymru (cwmpas poblogaeth)

2. Cerbydau Ymateb Cyflym (CYC/RRV) [Sut orau i ddefnyddio'r cerbydau hyn]

3. Defnydd (defnyddio'r hyn sydd gennym mewn ffordd effeithiol)

4. Angen heb ei ddiwallu (mwy o gleifion i dderbyn y gwasanaeth gofal critigol).

Bydd ymgysylltu ffurfiol â'r cyhoedd yn cadarnhau sut mae’r GATMB, yn llywio datblygiad ffiniau neu derfynau i'w defnyddio ac opsiynau a fydd wedyn yn cael eu modelu. Bydd hyn yn sicrhau bod manteision neu anfanteision pob opsiwn yn cael eu nodi’n glir a’u pwyso a’u mesur fel rhan o broses agored, dryloyw a chadarn.

Roedd y diweddariad diwethaf yn egluro bod Tîm PGAB yn gweithio gydag arbenigwyr mewn Byrddau Iechyd a Chynghorau Iechyd Cymuned i ddatblygu deunyddiau ymgysylltu a phan gytunir arnynt bydd y broses ymgysylltu ffurfiol yn dechrau.

Ers ys sesiwn friffio ddiwethaf, cyhoeddodd Ymddiriedolaeth Elusennol Ambiwlans Awyr Cymru ei phartner hedfan newydd sef Gama Aviation Plc ac ei bod wedi ymestyn ei chontractau gyda Maes Awyr Caernarfon a Maes Awyr y Trallwng tan 2026.

Mae’r gwaith o baratoi’r gweithgaredd ymgysylltu ffurfiol wedi parhau a byddwch yn gweld o’r diweddariad hwn faint o wybodaeth sydd bellach ar gael ar ein  wefan PGAB i gynnwys fideo sy’n esbonio ac adran Cwestiynau Cyffredin fanwl.

Byddaf yn darparu diweddariadau pellach maes o law.

Diolch yn fawr iawn am y sylwadau a'r ymholiadau pwysig yr ydym wedi'u derbyn trwy ein gwefan. Os oes gennych ymholiadau neu awgrymiadau pellach defnyddiwch y ddolen ganlynol:

Cymraeg: https://pgab.gig.cymru/gwasanaethau-a-gomisiynir/emrts-cymru/cdg/

 

Diolch yn fawr

Yr eiddoch yn gywir

Stephen Harrhy

Prif Gomisiyndd y Gwasanaethau Ambiwlans

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys .

Edrychwch ar ein tudalen Adolygiad Ambiwlans Awyr am yr holl erthyglau newyddion a diweddariadau am yr adolygiad o wasanaethau ambiwlans awyr yng Nghymru.

 

Cyhoeddwyd 08/03/23