Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar Newidiadau Dros Dro i Wasanaethau

28 Ebrill 2025

Yn ystod Haf 2024, cynhaliodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys gyfnod o ymgysylltu ar gynigion ar gyfer nifer o newidiadau dros dro i wasanaethau iechyd yn y sir.

Cytunwyd ar y newidiadau dros dro canlynol mewn cyfarfod o'r Bwrdd Iechyd ar 10 Hydref 2024 i'w gweithredu am gyfnod o chwe mis:

  • Yr Uned Mân Anafiadau yn Aberhonddu i agor rhwng 8yb ac 8yh (cyn hynny roedd yn 24 awr, er bod y gwasanaeth yn cau'n aml dros nos ar fyr rybudd).
  • Yr Uned Mân Anafiadau yn Llandrindod i agor rhwng 8yb ac 8yh (cyn hynny 7yb tan hanner nos er bod y gwasanaeth yn cau'n gynnar yn aml ar fyr rybudd).
  • Ward Graham Davies yn Llanidloes i gael ffocws cryfach ar gleifion sy'n cael eu hasesu’n Barod i Fynd Adref.
  • Ward Brynheulog yn y Drenewydd i ganolbwyntio'n gryfach ar gleifion sydd wedi cael eu hasesu i angen gofal adsefydlu mwy arbenigol mewn ysbyty cymunedol.
  • Ward Llewelyn ym Mronllys i ganolbwyntio'n gryfach ar gleifion sydd wedi cael eu hasesu’n Barod i Fynd Adref.
  • Ward Epynt yn Aberhonddu i ganolbwyntio'n gryfach ar gleifion sydd wedi cael eu hasesu i angen gofal adsefydlu mwy arbenigol mewn ysbyty cymunedol.

Gweithredwyd y newidiadau hyn yn llawn o ddechrau Rhagfyr 2024, ac mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar waith ar hyn o bryd ar gael ar ein gwefan:

Pam y cafodd y newidiadau dros dro hyn eu cyflwyno?

Mae gwasanaethau'r GIG ym Mhowys yn wynebu nifer o heriau i'w diogelwch a'u cynaliadwyedd. Er enghraifft, mae gormod o gleifion yn treulio rhy hir mewn gwelyau ysbyty ond yn aros am becyn gofal yn y gymuned. Mae tystiolaeth yn dangos y gall 10 diwrnod yn yr ysbyty arwain at gyfwerth â 10 mlynedd o heneiddio yng nghyhyrau pobl dros 80 oed. Gelwir hyn hefyd yn ‘ddatgyflyru’. Gall gael effaith sylweddol ar berson hŷn. Mae ein hunedau 'Barod i Fynd Adref' yn golygu y gallwn ddarparu gofal gyda mwy o ffocws, gan helpu pobl barhau i symud ac aros yn actif.

Adolygu a Gwerthuso'r Newidiadau Dros Dro

Cyflwynwyd y newidiadau dros dro ym mis Rhagfyr 2024. Ers hynny rydym wedi sicrhau bod adolygiadau parhaus yn cael eu cynnal ar gyfer materion fel diogelwch, profiad cleifion a chanlyniadau clinigol. Cyflwynir diweddariadau ar y gwaith hwn i bob cyfarfod o'r Bwrdd. Disgwylir i'r adroddiad sicrwydd nesaf fod ar 21 Mai 2025.

Yn ystod Mehefin a Gorffennaf byddwn yn gallu gwerthuso'n llawn yr effaith y mae'r newidiadau dros dro hyn wedi'u cael dros gyfnod o chwe mis.

Mae disgwyl i argymhellion ar y camau nesaf gael eu cyflwyno i'r Bwrdd Iechyd ar 30 Gorffennaf 2025 .

Llunio Dyfodol Gwasanaethau Iechyd Diogel, o Ansawdd Uchel i Bowys

Yn ganolog i'r penderfyniadau a wnaed gan y Bwrdd Iechyd ar 10 Hydref 2024 roedd ymrwymiad i weithio gyda chleifion a chymunedau i gytuno ar siâp parhaol ar gyfer gwasanaethau iechyd diogel a chynaliadwy yn y sir yn y dyfodol.

Mae'r gwaith hwn ar y gweill drwy'r rhaglen Gwella Gyda'n Gilydd. Yn ystod mis Mai rydym yn awyddus i glywed gan gleifion a chymunedau ledled Powys am y cyfleoedd a'r heriau i wasanaethau iechyd ym Mhowys. Bydd anghenion a phrofiadau pobl Powys yn ein helpu ni lunio dyfodol gwasanaethau iechyd diogel ac o ansawdd uchel.

Mae mwy o wybodaeth ar gael o'n Hwb Ymgysylltu Gwella Gyda'n Gilydd.