Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar Ysbyty Cymunedol Tref-y-clawdd gan Carol Shillabeer

Rwy'n cynnal y sesiwn friffio hon yn dilyn cwestiynau sydd wedi cael eu nodi ynglŷn â rôl yr ysbyty yn Nhref-y-clawdd ac yn arbennig y ward cleifion mewnol. Rwy'n gobeithio y bydd y wybodaeth yn y bwletin hwn yn ddefnyddiol i chi wrth nodi'r gwaith sydd ar y gweill, yn ogystal â rhai o'r heriau rydyn ni'n parhau i'w hwynebu. Gobeithiaf, hefyd, y bydd yn gyfle inni weithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â'r heriau hynny.

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i bobl Tref-y-clawdd a dwyrain Sir Faesyfed. Fel ardal wledig iawn - sydd ar y ffin genedlaethol rhwng Cymru a Lloegr - mae'n glir bod heriau wrth i bobl leol gyrchu gwasanaethau, a heriau i'r GIG wrth ddarparu'r gwasanaethau hynny. Ar hyn o bryd, her benodol sydd wedi codi yn y GIG a'r gymuned leol yw sut rydym yn gweithio gyda'n gilydd i ailagor y ward yn yr ysbyty.

Yn gyntaf oll, hoffaf bwysleisio fy mod yn cydnabod y pryder lleol am wasanaethau a ddarperir gan y GIG. Bu'n rhaid i'r gwasanaeth iechyd cyfan ledled y DU newid yn sylweddol er mwyn ymdopi â'r pandemig. Bu'n flwyddyn anhygoel lle bu angen i staff gofal iechyd a chleifion addasu i wasanaeth gwahanol. Fel y gwyddoch efallai, yn ôl ym mis Mawrth 2020, bu’n rhaid i’r bwrdd iechyd, fel pob sefydliad y GIG yn y DU, ddatblygu’n gyflym i ymateb i argyfwng iechyd cyhoeddus newydd. Bryd hynny, ni allai unrhyw un ohonom wedi rhagweld graddfa a maint y pandemig, na pha mor hir y byddai'n para. Felly roedd yn gwbl hanfodol ein bod ni yma ym Mhowys yn rhoi cynlluniau ar waith y gellid eu cynnal dros o leiaf 6 mis neu o bosibl hirach.

Roedd y cynlluniau hyn yn cynnwys y penderfyniad i gyfuno gwelyau cleifion mewnol Ysbytai Tref-y-clawdd a Llandrindod dros dro. Cafodd y cynlluniau eu hystyried yn ofalus iawn ac - o wybod nawr beth sydd wedi digwydd yn ystod y pandemig - dyma'r penderfyniad cywir er mwyn cynnal y nifer uchaf o welyau yn ysbytai cymunedol ar gyfer pobl Canolbarth Powys. Roedd hyn yn arbennig o bwysig o ystyried nifer y swyddi gwag a oedd eisoes yn bodoli, yn ogystal â chydnabod y lefel sylweddol o absenoldeb staff a oedd yn debygol o ddigwydd naill ai drwy warchod neu drwy salwch. Mae'n amlwg nad oedd Powys ar ei ben ei hun. Roedd angen penderfyniadau tebyg gan sefydliadau gofal iechyd ledled y DU.

Fodd bynnag, arhosodd gweddill y gwasanaethau yn yr ysbyty ar agor, er i ni gyrchu gwasanaethau mewn ffordd wahanol iawn oherwydd y mesurau hanfodol i leihau lledaeniad COVID-19 a chadw pellter cymdeithasol. Mae ein timau wedi addasu i ddarparu gwasanaethau dros y ffôn ac yn ddigidol, a darparu gwasanaethau wyneb yn wyneb diogel yn seiliedig ar angen clinigol. Fe wnaethom hefyd weithredu i wella gwasanaethau gofal yn y gymuned, yn y cartref - ac egluraf ychydig mwy ar hynny yn nes ymlaen yn y bwletin hwn.

Rwy’n falch o ddweud ein bod wedi gallu gwneud y gorau o’r ward tra nad yw wedi bod ar agor yn ystod yr amser hwn: efallai eich bod yn ymwybodol bod gwaith ailaddurno a chynnal a chadw sylweddol wedi’i gwblhau i baratoi ar gyfer ailagor y ward. Hefyd, roeddwn yn falch iawn o glywed bod y ward wedi cael ei defnyddio fel lle i berthnasau ymweld â'u hanwyliaid sy'n byw yn Cottage View. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan ein bod yn gwybod bod Cottage View yn fach ac mae'n annhebygol y byddai ymweld wedi gallu digwydd pe na bai ardal y ward wedi bod ar gael, ac yn ei dro bydd wedi cael effaith negyddol ar drigolion a theuluoedd.

Yn ddiweddar, defnyddiwyd y ward fel canolfan frechu ar gyfer pobl sydd wedi'u cofrestru â Phractis Meddygol Llanandras. Mae ystafelloedd ar y ward hefyd wedi cael eu defnyddio ar gyfer clinigau ychwanegol i ddarparu gwasanaethau yn lleol. Rwy'n gobeithio bod hyn yn rhoi sicrwydd y gwnaed pob ymdrech, hyd yn oed yn ystod yr amseroedd heriol hyn, i alluogi'r defnydd gorau o'r cyfleuster er budd pobl leol.

O ran y ward ei hun, fe wnaethom sefydlu tîm prosiect a weithiodd i ailagor Ysbyty Tref-y-clawdd erbyn diwedd mis Rhagfyr. Rwy'n credu ei bod yn hysbys iawn bod materion recriwtio anodd iawn yn bodoli yn y GIG. Yn anffodus, mae Sir Faesyfed yn ei chyfanrwydd yn faes heriol ar gyfer recriwtio staff nyrsio a therapi. Mae hyn wedi effeithio ar ward cleifion mewnol Tref-y-clawdd ers cryn amser, gyda rotas y ward yn anodd iawn ei gynnal hyd yn oed cyn y pandemig. Yn anffodus, bu ymdrechion recriwtio i ailagor y ward ym mis Rhagfyr yn aflwyddiannus. Roedd diffyg staff banc a staff ar asiantaethau i gefnogi ein staff parhaol wedi cael ei effeithio gan ail don COVID a hefyd gan yr ymdrechion ledled y wlad i ddechrau'r rhaglen frechu fwyaf a welodd y wlad erioed.

Oherwydd gwledigrwydd Tref-y-clawdd a'r ardal gyfagos mae'n debygol y bydd angen i staff newydd ddod o ddalgylch eang gan gynnwys y tu allan i Bowys. Mae hyn wrth gwrs yn golygu ein bod yn cystadlu am staff y GIG gyda gwasanaethau eraill fel yr Ysbytai Cyffredinol Dosbarth yn Henffordd yn ogystal â'r Amwythig. Mae'r rhain yn amlwg yn hanfodol i bobl Dwyrain Sir Faesyfed.

O ystyried bod cymaint o swyddi gwag dal yn bresennol, nid oedd yn bosibl ailsefydlu'r ward ym mis Rhagfyr. Wrth edrych bellach ar y profiadau a gawsom yn ystod yr ail don o COVID yn ystod y gaeaf, hwn oedd y penderfyniad cywir i gynnal y ward gyfun yn Ysbyty Llandrindod yn ystod yr amser hwn.

Un o'r camau a gymerwyd wrth baratoi ar gyfer y pandemig oedd sicrhau bod gennym fwy o wasanaethau yn y gymuned, gyda ffocws ar gefnogi pobl gartref. Ar ddechrau'r pandemig roeddem yn gwybod bod posibilrwydd y byddai gwasanaethau ysbyty yn cael eu llethu. Felly, roedd yn hanfodol sicrhau ein bod yn gallu helpu pobl i aros gartref a darparu gofal yn fwy uniongyrchol iddynt. Fe wnaethom sefydlu gwasanaethau ar gyfer y rhai a oedd angen gofal a chefnogaeth ychwanegol. Mae Gwasanaeth Rhyddhau i Adfer ac Asesu wedi golygu bod llawer o bobl a dderbynnir i Ysbytai Cyffredinol Dosbarth wedi cael cynnig y gwasanaeth gofal a therapi gwell hwn, sydd wedi golygu bod pobl wedi gallu dychwelyd adref heb fod angen arhosiad pellach yn yr ysbyty cymunedol. Gwnaethpwyd hyn yn bosibl trwy gael therapyddion ychwanegol yn y gymuned i allu darparu gofal wedi'i deilwra gartref.

Yn ogystal â'n gwasanaethau ein hunain, a'r rhai a ddarperir gan y Cyngor a phartneriaid yn y trydydd sector, rwyf hefyd yn ymwybodol iawn o'r ymdrech gymunedol aruthrol gan bobl yn yr ardal i gadw llygad ar eu cymdogion yn ystod yr amser hwn. Diolch i bawb am bopeth rydych chi wedi'i wneud i gadw Dwyrain Sir Faesyfed yn ddiogel.

O ran y pandemig a'r argyfwng iechyd cyhoeddus parhaus, rydym nawr yn troi ein ffocws at sicrhau y gellir cwblhau ein rhaglen frechu hynod lwyddiannus. Yn ogystal, rydym yn gwybod bod risg o drydedd don o'r pandemig gan gynnwys bygythiad amrywiolyn newydd o'r coronavirus. Rhaid inni aros yn barod am hyn, gan gynnwys darparu Gwasanaeth Profi ac Olrhain cynhwysfawr.

Yn bwysig, mae llawer o waith i'w wneud i leihau'r ôl-groniad gofal y mae'r pandemig wedi tarfu arno. Mae rhestrau aros wedi codi'n sylweddol, a gall gymryd sawl blwyddyn i'r adferiad hwn gael ei gwblhau.

Wrth i ni weithio ar yr holl faterion hyn, rydym yn parhau â'n gwaith i ailagor y ward yn Tref-y-clawdd. Rwy'n teimlo bod yn rhaid i mi fod yn onest â chi a nodi fy mhryder parhaus ynghylch y siawns o recriwtio'n llwyddiannus ar gyfer y ward. Gwyddom ein bod wedi cael anawsterau sylweddol o'r blaen a gwyddom fod y galw a'r cyfleoedd i staff gofal iechyd hyd yn oed yn uwch o ystyried y pandemig a'r heriau eraill a grybwyllwyd uchod. Serch hynny, rydym wedi ymrwymo i wneud ein gorau glas wrth geisio recriwtio a byddem yn gwerthfawrogi cefnogaeth y gymuned leol yn yr ymdrech hon yn fawr iawn.

Mae cael cynnig deniadol iawn yn allweddol o ystyried bod gan staff sawl dewis o ran ble i weithio. Yn fy mhrofiad hir yn y GIG, gall ymgyrchoedd 'Arbed ein Hysbyty' ei gwneud hi'n anoddach denu staff i ddod i weithio yn yr ardal. Felly, gobeithio y gallwn weithio gyda'n gilydd i hyrwyddo Tref-y-clawdd fel lle gwych i fyw a gweithio ynddo.

O ran y gwaith sydd ar y gweill ar hyn o bryd, mae tîm y prosiect wrthi'n gweithio ar gynlluniau i ailagor y ward cleifion mewnol. Cynhaliwyd cyfarfod yr wythnos hon gyda staff o Ysbyty Tref-y-clawdd i drafod y sefyllfa bresennol ac i gasglu safbwyntiau a syniadau pellach ar y ffordd orau i ddenu pobl i'r ardal. Bydd hyn yn cymryd amser, gan fod nifer y swyddi gwag ar gyfer Nyrsys Cofrestredig yr uchaf ym Mhowys ar hyn o bryd. Mae angen oddeutu 13 o nyrsys cofrestredig llawn amser ar y ward er mwyn i'r rotas gael eu llenwi, ac ar hyn o bryd mae dros 8.5 swydd wag. Yr ail gyfradd uchaf o swyddi gwag yw ward cleifion mewnol Llandrindod, sy'n pwysleisio'r heriau recriwtio sy'n ein hwynebu yn Sir Faesyfed. Mae hysbysebion recriwtio wedi bod yn rhedeg yn barhaol ar gyfer ward cleifion mewnol Tref-y-clawdd ac mae hysbysebu lleol pellach yn cael ei gynllunio, yn ogystal â gwaith i barhau i annog staff i ddefnyddio eu cysylltiadau eu hunain i ddenu nyrsys newydd i'r tîm. Tra bod y recriwtio yn parhau, mae tîm y prosiect wedi cwmpasu ffyrdd i'r staff presennol a hefyd staff sy'n ymuno â'r tîm barhau i weithio yng Nghymuned Tref-y-clawdd. Mae hyn yn rhoi cyfle go iawn i adeiladu ar y gwasanaethau gofal a roddwyd ar waith yn ystod y pandemig.

Rwy'n gobeithio bod y bwletin hwn yn rhoi sicrwydd o'n hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i bobl Tref-y-clawdd a'r ardal, a'n bod yn parhau i gymryd camau i ailagor y ward. Rwyf hefyd yn cydnabod efallai bod pobl leol yn poeni am ddarpariaeth gofal yn y dyfodol ac felly byddwn yn croesawu'r cyfle i gadw mewn cysylltiad ag arweinwyr cymunedol lleol a thrafod yr heriau ond hefyd y cyfleoedd ar gyfer darparu gofal yn lleol.

 

Diolch,

Carol Shillabeer, Prif Weithredwr

Rhannu:
Cyswllt: