Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad gan Dîm Adolygu Covid-19 nosocomiadd

Mae tîm adolygu COVID-19 nosocomiaidd pwrpasol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys bellach wedi cwblhau ei ymchwiliadau diogelwch cleifion sydd wedi’u cynnwys yn y Rhaglen Genedlaethol COVID-19 Nosocomiaidd. Mae’r rhaglen yn estyn ei diolch diffuant i gleifion, teuluoedd, gofalwyr a staff am gymryd rhan yn y broses ymchwilio sy’n rhoi cyfle i fyfyrio, dysgu a gwella. Mae'r tîm yn parhau i adolygu’r themâu dysgu, gan ymgysylltu â chydweithwyr i rannu canfyddiadau a chefnogi gwelliant. Mae'r sefydliad yn parhau i ymchwilio i ddigwyddiadau diogelwch cleifion COVID-19 nosocomiaidd y tu allan i ddyddiadau'r rhaglen fel rhan o brosesau adolygu nodweddiadol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael o'n tudalen adolygiad nosocomial .

21 Medi 2023

Rhannu:
Cyswllt: