Nid oes unrhyw newidiadau wedi eu gwneud ar hyn o bryd i amseroedd aros ar gyfer atgyfeiriadau at ysbytai yn Lloegr.
Cynghorir cleifion i barhau i fynychu apwyntiadau fel yr arfer.
Nid oes angen cysylltu â’ch darparwr ysbyty na'ch meddygfa i ofyn am ddiweddariad ynghylch pryd y bydd eich apwyntiad yn cael ei gynnal neu i gyflymu'ch apwyntiad, oni bai bod eich symptomau wedi newid yn sylweddol. Byddwch yn parhau ar y rhestr aros a bydd yr ysbyty yn cysylltu â chi i drefnu eich apwyntiad.
Cynhaliwyd cyfarfod o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) ddydd Mercher 26 Mawrth 2025 i ystyried cynlluniau a blaenoriaethau’r bwrdd iechyd ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Fel bwrdd iechyd, ein blaenoriaeth bennaf yw sicrhau'r gofal iechyd gorau posibl i bobl Powys.
Mae'r hinsawdd ariannol ar gyfer y GIG ledled y DU yn parhau i fod yn heriol iawn. Adlewyrchir hyn yn ein sefyllfa ariannol ni yma ym Mhowys.
Yn ein cyfarfod, rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth ofalus iawn i nifer o fesurau ychwanegol a gymerir yn ystod 2025/26 i wella ein sefyllfa ariannol wrth barhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd da i gleifion Powys yn unol â thargedau Llywodraeth Cymru.
Rydym wedi ymrwymo i gyflawni arbedion gweithredol o £11m ar ben yr arbedion o £10.5m a gyflawnwyd yn 2024-2025. Mae camau pellach y mae'r Bwrdd wedi cytuno arnynt fel rhan o'n cynllun 2025/26 yn cynnwys:
Camau wedi’u cydlynu i leihau effaith Oedi wrth Drosglwyddo Gofal.
Parhau i weithio gyda Chyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru i reoli costau sy'n gysylltiedig â gwasanaethau a gomisiynwyd yn genedlaethol (e.e. gwasanaethau arbenigol).
Comisiynu gweithgarwch gan yr holl ddarparwyr yn seiliedig ar dargedau Perfformiad GIG Cymru.
Rydym yn rhagweld y byddai unrhyw newidiadau i amseroedd aros yn dod i rym o fis Gorffennaf. Byddwn yn sicrhau bod cleifion a'r cyhoedd yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn ystod y gwanwyn, gan gynnwys drwy ddiweddariad yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd ym mis Mai.
Yn y cyfamser, nid oes unrhyw newidiadau wedi eu gwneud ar hyn o bryd i amseroedd aros ar gyfer atgyfeiriadau at ysbytai yn Lloegr. Cynghorir cleifion i barhau i fynychu apwyntiadau fel yr arfer.
Nid oes angen cysylltu â’ch darparwr ysbyty na'ch meddygfa i ofyn am ddiweddariad ynghylch pryd y bydd eich apwyntiad yn cael ei gynnal neu i gyflymu'ch apwyntiad, oni bai bod eich symptomau wedi newid yn sylweddol. Byddwch yn parhau ar y rhestr aros a bydd yr ysbyty yn cysylltu â chi i drefnu eich apwyntiad.
Rydym yn cydnabod y bydd y newyddion hyn yn annifyr i gleifion sy'n aros am apwyntiad neu weithdrefn, ond byddwch yn sicr bod y Bwrdd wedi rhoi ystyriaeth ofalus i'r ffyrdd gorau o gynnal a darparu gwasanaethau o ansawdd da i'n poblogaeth.
Dr Carl Cooper, Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae'r agenda a'r papurau ar gyfer y cyfarfod ar 26 Mawrth 2025, gyda recordiad o'r cyfarfod, ar gael ar ein gwefan: 26 Mawrth 2025
Ystyriwyd mesurau amser aros gan y Bwrdd yn gynharach yn 2025. Er na chytunwyd arnynt bryd hynny, gwnaethom yn glir y byddai angen i'n trafodaethau gyda darparwyr y GIG i ddatblygu'r cynllun ar gyfer 2025/26 gynnwys dull comisiynu sy'n diwallu anghenion gofal iechyd cyffredinol trigolion Powys orau, mewn ffordd sy'n fforddiadwy i'r pwrs cyhoeddus.
Ar hyn o bryd, mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar Lefel 4 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio yn fframwaith uwchgyfeirio Llywodraeth Cymru. Mae'r camau y cytunwyd arnynt gan y Bwrdd heddiw yn cefnogi ein rhaglen waith ehangach gyda Llywodraeth Cymru mewn ymateb i’r statws uwchgyfeirio Lefel 4 i gefnogi'r bwrdd iechyd i symud i sefyllfa gynaliadwy.
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn dechrau 2025/26 yn wynebu sefyllfa ddiffyg ariannol o £38.4m. Mae hwn yn bellter sylweddol o'r Cyfanswm Rheoli Targed a osodwyd gan Lywodraeth Cymru o ddiffygion o £12m. Mae angen camau gweithredu eithriadol, yn gyntaf i gau'r bwlch hwn o £26.4m rhwng ein safle cychwynnol a'r Cyfanswm Rheoli Targed, ac yna i sicrhau bod y bwrdd iechyd yn gallu cyrraedd cydbwysedd ariannol cynaliadwy.
Rhyddhawyd: 27/03/2025