Diweddariad diweddaraf ar 2 Ionawr 2026
Rydym wedi derbyn nifer o fynegiadau o ddiddordeb mewn darparu gwasanaethau fferylliaeth gymunedol yn Llanfyllin. Mae'n hanfodol ein bod yn dilyn y broses ddyledus yn unol â Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020 a deddfwriaeth gysylltiedig, ac rydym yn disgwyl rhannu diweddariad pellach yn gynnar yn 2026.
Yn y cyfamser, rydym yn ddiolchgar i Practis Grŵp Llanfyllin a fydd yn cynnig gwasanaethau dosbarthu i'w holl gleifion nes bod y fferyllfa newydd yn cael ei sefydlu.
O fis Ionawr 2026 ymlaen, gall holl gleifion Practis Grŵp Llanfyllin gasglu eu presgripsiynau GIG o fferyllfa Practis Grŵp Llanfyllin.
Os oes angen gwasanaethau fferyllfa gymunedol eraill arnoch fel y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin neu Gyflenwad Meddyginiaethau Brys, ewch i'ch fferyllfa gymunedol amgen agosaf. Mae fferyllfeydd eraill ar gael yn y Trallwng, Croesoswallt a'r Drenewydd yn ogystal ag mewn cymunedau cyfagos eraill fel y Bala, Glyn Ceiriog a'r Waun.
Hyd nes y bydd fferyllfa gymunedol newydd yn ei lle, estynnwn ein hymddiheuriadau na fydd gwasanaethau dosbarthu lleol ar gael ar ddydd Sadwrn yn Llanfyllin. Mae gwasanaethau fferyllfa dros y penwythnos ar gael yn y Trallwng, Croesoswallt, a'r Drenewydd.
Mae cyngor iechyd pan fo'n frys ond nid yn argyfwng ar gael gan GIG 111 Cymru drwy ffonio 111 am ddim o linell dir neu ffôn symudol neu drwy ymweld â 111.gig.cymru
Mae rhestr o wasanaethau fferylliaeth yng Nghymru ar gael o wefan GIG 111 Cymru: Dod o hyd i fferyllfa - Cymru
Mae rhestr o wasanaethau fferylliaeth yn Lloegr ar gael o wefan GIG Lloegr: Dod o hyd i fferyllfa – Lloegr
Mae cynnydd cadarnhaol yn cael ei wneud i sefydlu darparwr newydd o wasanaethau fferyllfa gymunedol yn y dref. Fodd bynnag, estynnwn ein hymddiheuriadau ond y bydd yn cymryd sawl wythnos i roi gwasanaeth newydd ar waith. Byddwn yn rhannu diweddariadau pellach ar gynnydd.
Pan fydd fferyllfa gymunedol newydd yn agor, bydd presgripsiynau'n dychwelyd i'w trefniadau presennol a dylai unrhyw un sy'n byw o fewn milltir i'r fferyllfa newydd gasglu eu presgripsiynau o'r fferyllfa gymunedol.
Rydym yn cydnabod y siom yn Llanfyllin yn dilyn penderfyniad Fferyllfa Danby i dynnu’n ôl o’i Chontract Gwasanaethau Fferyllol y GIG.
Ers i ni dderbyn ei llythyr hysbysiad ddechrau mis Medi, rydym wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddod o hyd i ddatrysiad cynaliadwy i’r mater hwn.
Rydym hefyd wedi cymryd camau ar unwaith drwy gyhoeddi datganiad ategol i’n hasesiad o anghenion fferyllol. Dyma'r broses ofynnol, yn unol â Rheoliadau Fferyllol GIG Cymru, pan ganfyddir bwlch yn y ddarpariaeth fferyllol. Mae hyn yn gwahodd ceisiadau gan ddarparwyr fferyllol i gefnogi darpariaeth barhaus gwasanaethau fferyllol y GIG yn ardal Llanfyllin, ac edrychwn ymlaen at gasgliad cadarnhaol cyn gynted â phosibl.
Mae nifer o sensitifrwydd masnachol y mae'n rhaid eu hystyried wrth ymgymryd â phrosesau o'r natur hon. Rydym yn ymddiheuro bod hyn yn cyfyngu ar y wybodaeth y gallwn ei rhannu. Mae'n bwysig iawn nad ydym yn peryglu'r broses gontractio gan y gallai hyn arwain at oedi.