Ydych chi wedi cofrestru gyda'r Porth Mynediad Deintyddol?
Cofiwch ddiweddaru eich manylion os bydd unrhyw beth yn newid:
Gall y fideo hwn eich helpu i fewngofnodi eto i'r Porth Mynediad Deintyddol os nad ydych chi'n siŵr sut.
Rydym yn gwybod y gall fod yn anodd cael gofal deintyddol arferol y GIG ar hyn o bryd. Rydym yn cymryd camau i fynd i'r afael â'r bylchau hyn. Drwy ymuno â'r Porth Mynediad Deintyddol gallwn eich dyrannu i leoedd deintyddol y GIG pan fyddant ar gael, gyda blaenoriaeth yn cael ei rhoi i blant ar y rhestr aros.
Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth hwn os ydych chi'n byw mewn cyfeiriad ym Mhowys am fwy na chwe mis o'r flwyddyn, neu wedi cofrestru gyda meddyg teulu ym Mhowys.
Gallwch wneud cais drosoch eich hun neu ar ran eraill, fel plentyn, aelod o'r teulu neu fel gofalwr â thâl neu heb dâl.
Os nad ydych chi eisiau neu os na allwch chi wneud cais ar-lein, ffoniwch Linell Gymorth Deintyddol Powys ar 01686 252 808.
Cysylltwch â GIG 111 Cymru os oes angen triniaeth ddeintyddol frys arnoch.