Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Gweithwyr Cefnogi Nyrsio 23 Tachwedd

Cefndir gwyrdd yn cynnwys offer meddygol gyda diwrnod gweithwyr cymorth nyrsio 23 Tachwedd 2023 wedi

Dydd Iau 23 Tachwedd yw Diwrnod Gweithwyr Cymorth Nyrsio a hoffwn ddiolch o galon yn bersonol i'n holl Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd anhygoel ym Mhowys sy'n darparu cefnogaeth hanfodol i feysydd Nyrsio, Bydwreigiaeth a lleoliadau gofal eraill.

Rydych chi'n rhan hanfodol o'n gweithlu ac mae eich cyfraniad at y gofal iechyd y mae pobl yn ei dderbyn ym Mhowys mor bwysig, ac o fudd ac effaith enfawr.

Rwy'n gwybod na allai Nyrsys a Bydwragedd wneud eu gwaith heboch chi.

Trwy gydol fy ngyrfa, rydw i wedi gweithio gyda Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd anhygoel sydd nid yn unig wedi fy nghefnogi fel Cofrestrydd ond sydd hefyd wedi cyfrannu at fy nysgu a'm datblygiad. Diolch i chi am bopeth rydych chi'n ei wneud bob dydd.

Claire Roche

Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

 

Cyhoeddwyd: 23/11/2023

Rhannu:
Cyswllt: