Rydym yn codi ymwybyddiaeth o Ddiwrnod Hepatitis y Byd ar 28 Gorffennaf 2026 ac yn annog pawb i gael prawf am Hepatitis!
Gall hepatitis feirysol effeithio ar unrhyw un, ac nid oes gan lawer o bobl unrhyw symptomau, sy'n golygu y gallent fod yn byw gyda'r haint heb hyd yn oed wybod amdano. Gallai cymryd prawf syml fod yn un o'r camau pwysicaf y byddwch chi'n eu cymryd i ddiogelu eich iechyd ac iechyd y rhai o'ch cwmpas.
Gellir trosglwyddo hepatitis mewn nifer o ffyrdd, ac weithiau gall amlygiad ddigwydd hyd yn oed pan gredwn ein bod yn cymryd pob rhagofal.
Efallai eich bod chi'n teimlo nad yw hepatitis yn effeithio arnoch chi, ond mae cymryd prawf syml am ddim yn dileu ansicrwydd. Mae'n rhoi atebion i chi, yn rhoi sicrwydd, ac yn helpu sicrhau y gall unrhyw un sydd angen cymorth gael mynediad at y gofal cywir.
Gall diagnosis cynnar helpu atal clefyd difrifol yr afu a sicrhau bod pobl yn derbyn y driniaeth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt. Er mwyn gwella mynediad at brofion, mae Tîm Diogelu Iechyd Powys yn cynnig gweithgareddau profi allgymorth cynhwysol ledled y sir, gan ddod â phrofion yn agosach at gymunedau lleol.
Fel rhan o Ddiwrnod Hepatitis y Byd 2026, mae Tîm Diogelu Iechyd Powys yn gwahodd clybiau rygbi ledled y sir i gymryd rhan yn ein menter ymwybyddiaeth a phrofi am hepatitis. Rydym wedi datblygu taflen bwrpasol i gefnogi clybiau i rannu gwybodaeth gyda chwaraewyr, aelodau a chymunedau ehangach.
Arwain eich tîm a'ch cymuned drwy gael prawf am hepatitis. Drwy wybod eich statws, gallwch chi helpu dechrau sgyrsiau, lleihau stigma, ac annog eraill i gymryd cam syml a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w hiechyd.
Mae profion hefyd ar gael trwy amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys Kaleidoscope, Profi a Phostio, practisiau meddygon teulu, a gwasanaethau iechyd rhywiol.
Gyda'n gilydd, gallwn helpu dileu hepatitis fel bygythiad i iechyd y cyhoedd.
Archebwch becyn prawf yma: Iechyd Rhywiol Cymru - Tudalen gartref (www.ircymru.online)
Gwybod eich risg. Cael eich profi. Arwain y ffordd
Rhyddhawyd: 28/07/2026