Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia

Delwedd o Cynnydd Baner balchder

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn falch o gefnogi’r Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia ar y 17 Mai.

Rydyn ni wedi ymrwymo’n llwyr at ddiogelwch ein holl gleifion a staff ac nid ydym yn goddef homoffobia, deuffobia neu drawsffobia ar unrhyw ffurf.

Fodd bynnag, nid yw gwahaniaethu bob amser yn ymddangos yn ymosodol neu hyd yn oed yn fwriadol. Mae'n bwysig nad ydym yn gwneud rhagdybiaethau am bobl. Mae treulio’r amser i siarad â phobl a dysgu amdanyn nhw’n gwneud gwahaniaeth go iawn wrth i ni ddeall ein gilydd.

Yr wythnos hon mae GIG Cymru hefyd wedi bod yn dathlu Wythnos Gydraddoldeb y GIG gyda chyfres o ddigwyddiadau staff i helpu codi ymwybyddiaeth o'r nifer o anghydraddoldebau ac anawsterau sy'n wynebu'r rhai â nodweddion gwarchodedig. Gyda Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia yn disgyn ar ddiwedd yr wythnos, mae ysbytai ledled Cymru yn arddangos baner Cynnydd Pride i ddangos eu cefnogaeth i'r gymuned LHDTCRhA+.

 

Rhyddhawyd: 17/05/2024

Rhannu:
Cyswllt: