Neidio i'r prif gynnwy

Dosbarthiadau Ymarfer Corff am Ddim i Bobl Gydag Arthritis

Mewn ymgais i gadw pobl yn symud, mae elusen genedlaethol yn cynnig dosbarthiadau ymarfer corff am ddim i bobl ym Mhowys sy'n byw gydag arthritis a chyflyrau eraill.

Trefnwyd gan Cymru Versus Arthritis - fel rhan o brosiect CWTCH a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru - bydd cwrs Pilates yn cael ei gynnal ar-lein dros chwe wythnos ar gyfer y rhai gydag arthritis a’r rhai gyda chyflyrau cyhyrysgerbydol, gan gynnwys cyflyrau cysylltiedig megis y gymalwst, ffibromyalgia, gorsymudedd a lwpws.

Mae'r dosbarthiadau'n cael eu hamlygu gan ymgyrch Helpwch Ni i Helpu Chi Llywodraeth Cymru sy'n ceisio annog pawb i wneud mân newidiadau hawdd o ran eu ffordd o fyw a all wneud gwahaniaeth mawr i'n hiechyd a'n lles.

Bydd y sesiynau am ddim hyn ar agor i oedolion o bob oedran ym Mhowys, ond mae nifer y gwagleoedd yn gyfyngedig. Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal bob dydd Mawrth rhwng 11.30am a 12.30pm rhwng 22 Chwefror a 29 Mawrth.

Mae Zoe Thomas o Versus Arthritis yn Gydlynydd Gwasanaeth ym Mhowys:

"Yn aml pan fyddwn ni mewn poen neu os oes gennym gyflwr hirdymor, rydyn ni'n rhoi'r gorau i symud oherwydd rydyn ni'n poeni y byddwn ni'n ei waethygu ymhellach. Fodd bynnag, mae ymchwil yn dangos bod gwneud ymarfer corff yn helpu. Rydym yn cynnal cyrsiau tebyg yn Tai Chi a ioga sydd wedi bod yn boblogaidd iawn. Ein gobaith yw os ydyn yn cynnig gwahanol fathau o ymarfer corff, y bydd pobl yn rhoi cynnig arnyn nhw ac yn parhau i’w gwneud ar ôl ein sesiynau ar-lein.”

Mae pilates yn ffocysu ar gydbwysedd y corff a gwella ystum y corff, sy’n ddefnyddiol iawn wrth iddyn heneiddio oherwydd gall leihau’r risg o gwympo. Gall hefyd wella eich lles meddyliol.

Mae Sandi Coppi, 75, yn byw yn Nhrefaldwyn ac yn Arweinydd gwirfoddol Versus Arthritis ar gyfer y Grŵp Cymorth OUCH.  Meddai:

"Dwi wedi cael arthritis ers i mi fod yn fy mhedwardegau ac rydw i wedi rhoi cynnig ar bopeth! Weithiau, gallwch fod mewn cymaint o boen mae’n anodd symud, ond unwaith rydych yn gorfodi eich hun, rydych mewn lle gwell ac yn gallu symud yn well hefyd. Y peth pwysig yw parhau gyda’r ymarfer corff.

“Fe wnes i ddechrau’r grŵp Ouch bedair blynedd yn ôl oherwydd rwy'n adnabod llawer o bobl ym Maldwyn sy'n byw gydag arthritis ac mae'n ffordd wych o gwrdd â phobl newydd. Mae Covid wedi amharu ar bethau dros y blynyddoedd diwethaf felly rydym yn gyffrous iawn i ddychwelyd i'r arfer ac rydym yn falch iawn y gallwn barhau â dosbarthiadau ar-lein."

Mae Aled Falvey yn Bennaeth Proffesiynol ar Ffisiotherapi ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys. Meddai:

“Mae ymarfer corff cymedrol yn chwarae rhan allweddol wrth reoli poen ac anhyblygrwydd yn y cymalau. Mae’n cynyddu cryfder a hyblygrwydd ac yn helpu brwydro yn erbyn blinder.

“Mae problemau cyhyrysgerbydol yn effeithio sawl person a gall hyn fod yn broblem gynyddol yn y dyfodol wrth i fwy o bobl weithio o gartref. Mae'r seibiannau i ffwrdd o'n desg am ginio neu sgyrsiau gyda chydweithwyr yn diflannu felly byddwn yn annog pobl i godi a symud mwy. Nid yn unig y gallwch atal problemau trwy wneud ymarfer corff ond gallwch hefyd reoli rhai cyflyrau penodol. Mae pilates yn ffordd wych i bobl gwella eu cryfder, cydbwysedd ac ystod o symudiad.”

Mae Versus Arthritis hefyd yn cynnal grwpiau cymorth wyneb yn wyneb o fewn lleoliadau ledled Powys, lle gallwch gwrdd ag eraill yn eich ardal leol. Mae ganddyn hefyd ystod enfawr o fideos ymarfer corff ar-lein, dawns a gweithgareddau ymestyn fel rhan o'r gyfres Let's Move - felly os nad yw Pilates yn addas i chi, yna gallwch ddal i elwa o symud ac ymarfer corff pryd a ble mae'n addas i chi. Let's Move with Leon | Versus Arthritis

Am fwy o wybodaeth ar y dosbarthiadau neu grwpiau cymorth yn eich ardal leol, cysylltwch â: walessupport@versusarthritis.org / 0800 756 3970 neu ewch i www.versusarthritis.org

Os hoffech roi hwb i’ch siwrne at ffordd o fyw iachach, ond ddim yn gwybod ble i ddechrau, ewch i dudalennau Byw a Theimlo’n Dda ar wefan GIG 111 Cymru am awgrymiadau a chyngor. Mae pob newid y gwnewch chi yn helpu ni i’ch helpu chi.

 

Cyhoeddwyd: 01/02/2022