Neidio i'r prif gynnwy

Dweud eich dweud:

Mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (PGIAC) yn comisiynu Mewnblaniadau yn y Cochlea a Dyfeisiau Mewnblaniad Clyw Dargludiad Esgyrn (BCHI) ar gyfer poblogaeth Cymru ar ran y 7 Bwrdd Iechyd. Mae’r Byrddau Iechyd yn y de-ddwyrain, y de-orllewin a De Powys wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd i nodi'r ffordd orau o ddarparu gwasanaeth dyfeisiau mewnblaniad clyw yn Ne Cymru. Nid yw gwasanaethau ar gyfer cleifion sy’n byw yng Ngogledd Cymru a Gogledd Powys yn cael eu cynnwys yn y gwaith yma.

Hoffai PGIAC ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol i gasglu eu barn am drefniadau comisiynu ar gyfer yr holl wasanaethau dyfeisiau mewnblaniad clyw arbenigol yn y dyfodol.

Bydd y broses ymgysylltu yn dechrau ar 4 Ionawr 2023 ac yn para tan 14 Chwefror 2023.

Rhagor o wybodaeth a dweud eich dweud.

Cyhoeddwyd 4/01/23

Rhannu:
Cyswllt: