Neidio i'r prif gynnwy

Cynghrair y Cyfeillion yn Ysbyty Sir Drefaldwyn y Drenewydd wedi rhoi dwy fainc goffa i roi ar dir yr ysbyty

Mae Cynghrair y Cyfeillion yn Ysbyty Sir Drefaldwyn y Drenewydd wedi rhoi dwy fainc goffa i roi ar dir yr ysbyty.

Mae'r meinciau wedi cael eu rhoi er cof am y cyn-Gadeirydd Ken Stern a'r cyn Drysorydd Audrey Lloyd.

Ffurfiwyd Cynghrair y Cyfeillion i godi arian at ysbyty'r Drenewydd ac, yn y gorffennol, mae wedi ariannu offer a dodrefn arbenigol ar gyfer Ward Strôc Bryn Heulog a hefyd i'r Adran Cleifion Allanol, Uned Mamolaeth ac Adrannau Pelydr X ac Awdioleg.

Ers 2020, maen nhw wedi codi £38,389 ar gyfer offer ayyb ac maen nhw’n disgwyl £26,254 pellach.

Mae aelodau Cynghrair y Cyfeillion yn gweithio'n galed ac ar hyn o bryd yn chwilio am Aelodau newydd i ymuno â nhw.

Mae Cynghrair y Cyfeillion yn cynnal Bore Coffi ar Fawrth 24ain yn yr Eglwys Fethodistaidd ar Lôn Gefn y Drenewydd, o 10yb tan 11.30yb.

 

Rhyddhawyd: 24/02/2023

Rhannu:
Cyswllt: