Mae newyddion am frechlynnau COVID-19 yn galonogol ond nes eu bod ar gael yn eang mae'n rhaid i ni i gyd barhau i gadw'n ddiogel.
Dywedodd Stuart Bourne, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:
"Mae cynllunio ar gyfer cyflwyno brechlyn COVID-19 posib yng Nghymru wedi hen ddechrau. Mae hyn yn cynnwys trefnu'r logisteg ar gyfer cludo'r brechlyn, nodi lleoliadau addas ar gyfer brechiadau, a sicrhau bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar gael ac wedi'u hyfforddi i weinyddu'r brechlynnau.
"Bydd cyflenwadau cyfyngedig o frechlyn ar y dechrau, felly bydd yn cael ei gynnig i'r rhai sydd â'r risg uchaf, yn unol â'r cyfeiriad cenedlaethol. Mae'n parhau i fod yn hanfodol ein bod ni i gyd yn cymryd cyfrifoldeb personol am ein gweithredoedd i sicrhau ein bod ni'n gwneud cymaint ag sy'n bosib i gyfyngu ar ledaenu coronafeirws.
"Er bod y cyfnod torri tân yng Nghymru wedi dod i ben, byddwn yn annog pawb i fod yn ymwybodol nad yw hyn yn golygu dychwelyd i normalrwydd, nid yw coronafirws wedi diflannu, ac mae'n dal i fod yn weithredol mewn cymunedau ledled Powys, felly mae angen i ni i gyd gymryd camau i gadw pawb yn ddiogel ac i atal trosglwyddo.
"Gofynnwn i'r cyhoedd gadw at y rheoliadau newydd a chyfyngu eu cyswllt â phobl eraill gymaint â phosibl fel ein bod i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i ostwng nifer yr achosion cadarnhaol.
“Mae hyn yn golygu aros allan o gartrefi pobl eraill, cyfyngu ar amseroedd a nifer y bobl rydych chi'n cwrdd â nhw, cynnal pellter cymdeithasol a hylendid dwylo, gweithio gartref os gallwch chi, a hunan-ynysu os ydych chi'n dangos symptomau coronafeirws neu os gofynnir i chi wneud hynny gwnewch hynny trwy olrhain cyswllt."
Dilynwch y canllawiau diweddaraf ar ein tudalennau coronafeirws.