Neidio i'r prif gynnwy

Dyma ymarferwyr CBT cyfunol ar-lein newydd Powys

Testun yn Darllen: Cymorth iechyd meddwl cymysg Cael cymorth wyneb yn wyneb neu dros y ffôn gydag ymarferydd cymysg. Delwedd o ddyn a menyw yn eistedd o flaen gliniadur

Os ydych chi'n byw ym Mhowys ac yn cael trafferth gyda phroblemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol – gallai fod yn straen, gorbryder, iselder neu broblemau cysgu – gallwch gael cymorth wyneb yn wyneb neu dros y ffôn am ddim trwy ein partneriaeth elusennol â Chonsortiwm Ponthafren.

Mae gwasanaeth CBT ar-lein GIG Cymru wedi ymuno â'r trydydd sector i ddarparu gwasanaeth 'cyfunol' arbennig sydd ar gael i drigolion Powys yn unig.

Ar gael drwy Ponthafren a changhennau lleol Mind, mae'n cyfuno cefnogaeth iechyd meddwl digidol gan ddefnyddio SilverCloud® â help llaw ddynol ychwanegol gan ymarferydd hyfforddedig.

Mewn cyfarfodydd wyneb yn wyneb bob pythefnos – neu drwy alwad ffôn neu fideo - bydd eich ymarferydd yn eich helpu chi lywio platfform SilverCloud®, sicrhau eich bod ar y rhaglen orau ar gyfer eich anghenion, ac yna eich arwain a'ch annog ar hyd y ffordd.

Dyma'r ddau aelod diweddaraf o'r tîm cyfunol.

Carolyn Ford

Mae Carolyn wedi'i lleoli yn Mind Aberhonddu ac mae ganddi dri degawd o brofiad mewn meddygfa breifat a gwaith cymunedol. Am sawl blwyddyn bu’n arbenigo mewn cwnsela galar mewn hosbis.

“Mae SilverCloud® yn addysgiadol iawn. Mae'n llawn offer a strategaethau y gallwch eu defnyddio mewn sefyllfaoedd bob dydd," meddai Carolyn.

“Dw i’n hoffi’r hyblygrwydd – unwaith i chi gael mynediad, gallwch chi ymuno ac ymadael fel sy’n siwtio chi – ac mae’r rhaglenni’n llawn profiadau a rennir sy’n rhoi’r teimlad hwnnw o gefnogaeth grŵp i chi, nad ydych chi ar eich pen eich hun.”

Laura Cummings

Prif leoliad Laura yw Mind Canolbarth a Gogledd Powys yn Llandrindod. Mae ganddi gefndir amrywiol, gan weithio i ddechrau gyda dioddefwyr a thystion yn y system cyfiawnder troseddol ac, yn ddiweddarach, gyda theuluoedd mewn angen fel rhan o'r cynnig cymorth cynnar gyda Chyngor Swydd Amwythig. Mae hi wedi cael hyfforddiant mewn cwnsela ac yn gweithio ar radd meistr mewn seicoleg iechyd meddwl a lles.

“Mae’r gwasanaeth cyfunol yn dod â’r lefel ychwanegol honno o gefnogaeth – mae’n amhrisiadwy,” meddai Laura. “Rydyn ni yno i roi arweiniad i chi ynghylch y rhaglen, ac i’ch grymuso i ddal ati.

“Mae’n anogaeth ddi-feirniadaeth – rydyn ni eisiau i chi deimlo bod rhywun yn eich cefnogi chi.”

I gyrchu’r gwasanaeth cyfunol, cysylltwch â: Mind Aberhonddu ar 01874 611 529 / support@breconmind.org.uk

Mind Canolbarth a Gogledd Powys 01597 824411 / admin@mnpmind.org.uk

Consortiwm Ponthafren 01686 621 586 / admin@ponthafren.org.uk

Os nad ydych chi eisiau'r gefnogaeth gyfunol, wyneb yn wyneb hon, gallwch chi hefyd ddefnyddio gwasanaeth hunanatgyfeirio SilverCloud drwy gofrestru yma: 

https://nhswales.silvercloudhealth.com/signup/

Ar draws Cymru, mae 40,000 o bobl wedi defnyddio SilverCloud®.

Gall cymryd camau i ofalu am eich iechyd meddwl heddiw helpu atal problemau mwy difrifol rhag datblygu yn y dyfodol.

 

Cyhoeddwyd: 29/09/2025