Neidio i'r prif gynnwy

Eich cyfle chi i helpu Ymchwiliad Covid-19 y DU i ddeall y pandemig, o'ch safbwynt chi, wrth i ni ymchwilio i ymateb y DU a'i effaith

Effeithiodd y pandemig ar bob un person yn y DU ac, mewn llawer o achosion, mae'n parhau i gael effaith barhaol ar fywydau. Mae pob un o'n profiadau yn unigryw a dyma eich cyfle i rannu'r effaith a gafodd arnoch chi, a'ch bywyd, â'r Ymchwiliad.

Bydd pob stori a rennir â ni yn cael ei defnyddio i lywio’r Ymchwiliad a'n helpu i ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol. Caiff straeon eu coladu, eu dadansoddi a'u troi'n adroddiadau ar thema, a fydd yn cael eu cyflwyno i bob ymchwiliad perthnasol ar ffurf tystiolaeth. Caiff yr adroddiadau eu rhoi ar ffurf ddienw.

Sut alla i rannu fy mhrofiad?

Trwy ddilyn y ddolen 'Rhannu eich profiad' isod, cewch eich tywys i ffurflen fer ar-lein sy'n eich galluogi i gyflwyno'ch profiad o'r pandemig.

Rhannu eich profiad (yn agor mewn tab newydd)

Gallwch rannu cymaint neu gyn lleied o wybodaeth ag y dymunwch. A gallwch chi ddechrau arni nawr, a dod yn ôl i'w orffen pan fyddwch chi'n teimlo'n barod. Bydd Mae Pob o Stori o Bwys yn parhau ar agor drwy gydol yr Ymchwiliad a gallwch ddilyn ein cynnydd trwy gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr or following our social channels. neu ddilyn ein sianeli cymdeithasol.

Pam dylwn i rannu fy mhrofiad?

Er na allwn ni newid y gorffennol, trwy rannu eich profiad ag Ymchwiliad Covid-19 y DU, gallwch chi ein helpu i ddeall ac asesu'r darlun llawn o sut yr effeithiodd y pandemig ar fywydau.

Mae'r ffurflen yn cynnwys adran i chi ddweud wrthym beth y credwch y gellid ei ddysgu, yr hyn y gellid bod wedi'i wneud yn well, neu'n wahanol, neu pe bai rhywbeth wedi'i wneud yn dda.

 

Darganfyddwch fwy ar wefan yr Ymchwiliad