Neidio i'r prif gynnwy

Eich Syniadau Mawr ar gyfer Powys

Mae angen eich cymorth arnom i benderfynu ar y problemau mawr sydd angen i sefydliadau partner ym Mhowys ganolbwyntio ar dros y pum mlynedd nesaf.

Yn gynharach eleni, cyhoeddasom Asesiad Lles ac Asesiad o Anghenion y Boblogaeth.

Beth yw Asesiad Lles Powys 2022?

  • Mae'r Asesiad Lles yn disgrifio'r gwahanol ffactorau sy'n effeithio ar ein lles cyffredinol ym Mhowys.
  • Mae cyhoeddi Asesiad Llesiant yn rhan o'n dyletswyddau dan y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
  • Gallwch ddarllen cyflwyniad a chanfyddiadau allweddol ein Hasesiad Lles 2022 ar dudalen Asesiad Lles ein gwefan.
  • Gallwch hefyd ddarllen ein Hasesiad Lles 2022 llawn ar dudalen Asesiad Lles ein gwefan.

Beth yw Asesiad o Anghenion Poblogaeth Powys 2022?

  • Mae'r Asesiad o'r Boblogaeth yn disgrifio'r anghenion gofal a chymorth y presennol a’r dyfodol ym Mhowys.
  • Mae cyhoeddi Asesiad O Anghenion Y Boblogaeth yn rhan o’n dyletswyddau dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.
  • Gallwch ddarllen ein Hasesiad o Anghenion Y Boblogaeth ar wefan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.

Mae bellach angen i ni ddefnyddio’r canfyddiadau hyn i ddatblygu ein Cynllun Lles ac ein Cynllun Ardal. Bydd y dogfennau hyn yn gosod y ffordd ar gyfer sut y bydd sefydliadau partner ym Mhowys yn cydweithio dros y pum mlynedd nesaf i gwrdd ag anghenion y sir. Bydd y dogfennau’n cael eu defnyddio gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i wneud y gwelliannau sy’n bwysig i chi.

Dyma le rydyn ni angen eich help chi.

  • Manteisiwch ar y cyfle i ddarllen a myfyrio dros yr Asesiad Lles Powys ac Asesiad Anghenion Poblogaeth Powys.
  • Yna, wrth fyfyrio ar yr hyn rydych wedi'i ddarllen ac ar eich profiadau eich hun o fyw neu weithio ym Mhowys, atebwch un cwestiwn syml:
    “Beth yw eich prif flaenoriaeth i wella lles, gofal a chymorth pobl Powys dros y pum mlynedd nesaf a thu hwnt?”

Cwblhewch ein harolwg neu fap syniadau (cofiwch gofrestru gyda’r safle i ddefnyddio’r Map Syniadau) erbyn y 13 Tachwedd 2022 i ddweud eich dweud.

Bydd yr adborth rydym yn ei glywed gennych erbyn 13 Tachwedd 2022 yn ein helpu datblygu ein Cynllun Lles a'n Cynllun Ardal. Bydd llawer mwy o gyfleoedd i gymryd rhan cyn cyhoeddi'r Cynllun Llesi a'r Cynllun Ardal derfynol yn y gwanwyn.

Rhannwch eich syniadau mawr i Bowys. Dweud eich dweud erbyn y 13 Tachwedd 2022: www.dweudeichdweudpowys.cymru/syniadau-mawr

Cyhoedd 27/10/22