Neidio i'r prif gynnwy

Fferyllydd Clinigol Powys yn Ennill Gwobr Genedlaethol

Fferyllydd Clinigol Powys, Rafael Baptista yn ennill Gwobr Arloesedd ac Arfer Gorau Cymdeithas Ysbytai Cymunedol y DU gyfan am ei waith yn datblygu a gweithredu Offeryn Cofnodi Ymyriadau Fferyllol xPIRT.

Gall ymyriadau clinigol a fferyllol a wneir gan weithwyr fferyllol proffesiynol gael effaith sylweddol o ran sicrhau’r gofal gorau posibl i gleifion a diogelwch meddyginiaethau. Mae ymyriadau’n cynnwys rhesymoli presgripsiynau a lleihau/atal gwallau meddyginiaeth drwy sicrhau dewisiadau therapiwtig priodol.

Mae cofnodi ymyriadau fferyllol yn cynhyrchu data hanfodol i lywio effaith glinigol ac economaidd timau fferylliaeth, gan ganiatáu i ddysgu gael ei rannu â gweithwyr proffesiynol eraill, gwella arferion presgripsiynu, creu adnoddau/cynllunio yn unol â chapasiti a sicrhau cymysgedd o staff gyda sgiliau priodol.

Yn 2021, cofnododd wardiau ysbytai cymunedol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys 158 o ymyriadau, sy’n cyfateb i gyfradd gofnodi o 0.4 o ymyriadau fesul aelod o staff fferyllol yr wythnos. Nid oedd y ffigurau hyn yn gynrychiolaeth gywir o waith gweithiwr fferyllol proffesiynol mewn ysbytai cymunedol. Gall niferoedd cofnodi isel arwain at optimeiddio meddyginiaeth ddiffygiol a rhesymoli presgripsiynu, costau uwch a chyfleoedd addysg a hyfforddiant nas nodwyd.

Felly, nod y prosiect gwella a oedd yn cynnwys holl ysbytai cymunedol BIAP oedd cynyddu nifer yr ymyriadau fferyllol a gofnodwyd yn 2022 deirgwaith yn fwy, a dadansoddi eu heffaith glinigol trwy gymhwyso gwahanol ddulliau o reoli newid mewn gofal iechyd.

Yn 2022, cofnodwyd gan BIAP 977 o ymyriadau mewn ysbytai cymunedol, cynnydd o fwy na 600% o’i gymharu â 2021, gan ehangu ymhellach yn 2023 i gofnodi ymyriadau a gyflawnir mewn cartrefi gofal. Yr ymyriad mwyaf llwyddiannus a anogodd staff i adrodd am ymyriadau fferyllol oedd gweithredu Pecyn Cymorth Offeryn Cofnodi Ymyriadau Fferyllol (xPIRT) newydd Microsoft. Roedd hyn yn cynnwys offeryn recordio ar-lein (xPIRT) a dangosfwrdd rhyngweithiol (Dangosfwrdd xPIRT) gyda chanlyniadau byw o bob ymyriad.

Profwyd bod ysgogi newid yn un o’r penderfynyddion gorau i gyrraedd targedau’r prosiect, gan fod Dangosfwrdd xPIRT wedi darparu ystorfa weledol i staff a rheolwyr tîm y gellir ei defnyddio ar gyfer dysgu personol a dysgu ar y cyd ynghylch presgripsiynu, gofal therapiwteg a gofal fferyllol. Mae Dangosfwrdd xPIRT yn rhannnu ffeithluniau rhyngweithiol manwl ar ddadansoddeg data yn seiliedig ar yr ymyriad fferyllol a gofnodwyd: dyddiad, ysbyty, ward, cyfrannwr, cyffur, difrifoldeb, math ac is-fath, llinell amser, osgoi costau, adroddiadau o ddigwyddiadau a Chardiau Melyn.

Mae’r offeryn iechyd digidol hwn wedi ysgogi'r gwaith o gynhyrchu pedwar canllaw clinigol newydd, newidiadau i fformiwlâu meddyginiaethau ac wedi creu mwy o ymwybyddiaeth i bresgripsiynwyr nid yn unig o faterion allweddol yn ymwneud ag optimeiddio a diogelwch meddyginiaethau, ond hefyd o werth y timau fferylliaeth yn y lleoliad gofal iechyd hwn.

Gellir cymhwyso'r pecyn cymorth hwn yn hawdd a'i addasu i sefydliadau, lleoliadau neu wasanaethau iechyd eraill, gan mai dim ond rhaglenni Microsoft Office 365 y mae'n eu defnyddio. Er mwyn dangos hyn i ddarpar ddefnyddwyr, mae datblygiad xPIRT wedi'i gyhoeddi mewn erthygl mynediad agored:

Defnyddio xPIRT i Gofnodi Ymyriadau Fferyllol: Astudiaeth Arsylwi, Drawsadrannol ac Ôl-weithredol (Gofal Iechyd, 2022) https://www.mdpi.com/2227 9032/10/12/2450

Cydnabuwyd gwaith Rafael a’i gydweithwyr i ddatblygu a gweithredu’r system gan y Gymdeithas Ysbytai Cymunedol trwy eu Gwobrau Arloesedd ac Arfer Gorau ar 3 Gorffennaf 2023: http://communityhospitals.org.uk/quality-improvement/innovation-best-practice .html

Cyhoeddwyd: 04/07/2023