Neidio i'r prif gynnwy

Ffocws Cymunedol Tref-y-clawdd a Dwyrain Sir Faesyfed

Diweddariad ar wasanaethau’r GIG yn Nhref-y-clawdd a Dwyrain Sir Faesyfed

 

Mae'r pedair ystafell 'ailalluogi' ar Ward Panpwnton yn Ysbyty Tref-y-clawdd bellach wedi bod ar waith ers dros chwe mis ac yn gweithio'n dda i bobl yr ardal.

Mae'r trefniant dros dro yma ar waith tra bod y bwrdd iechyd yn delio gyda'r her o recriwtio staff nyrsio cleifion mewnol i'r ysbyty - her sy'n wynebu'r rhan fwyaf o awdurdodau iechyd, yn enwedig y rhai mewn ardaloedd gwledig, ledled y DU.

Mae'r pedair ystafell - un gyda dau wely i ganiatáu i aelod o'r teulu/gofalwr aros gyda chlaf - yn cael eu defnyddio gan gleifion ailalluogi o ardal Tref-y-clawdd, hynny yw, y rhai nad oes angen gofal Ysbyty Cyffredinol Dosbarth arnynt mwyach ond sydd angen cymorth o hyd cyn dychwelyd adref. Mae’r gwelyau hyn yn cael eu rheoli gan ein tîm gofal preswyl profiadol ac, lle bo angen, yn cael eu cefnogi gan gydweithwyr clinigol gan gynnwys nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol cysylltiedig. Gyda'r cynllun hwn, bydd mwy o bobl yn cael gofal yn eu cymuned leol, gan leihau'r angen i deulu, ffrindiau a gofalwyr deithio i ysbytai cyffredinol dosbarth neu ysbytai cymunedol eraill.

Christina Creemer yw Rheolwr Gofal Preswyl Cottage View – cartref preswyl y bwrdd iechyd sy'n rhan o gampws yr ysbyty. Eglurodd: “Mae 10 preswylydd ailalluogi wedi aros gyda ni ers i ni gychwyn yn yr haf, ac mae’n gweithio’n dda.”

Esboniodd Chris: "Mae'n braf iawn gweld wynebau newydd yn dod i mewn i'r adeilad ac mae'r preswylwyr ailalluogi dros dro yn cymysgu â'n perswylwyr Cottage View ar gyfer y gweithgareddau ac amser bwyd, ac mae'n ymddangos bod pawb yn eu mwynhau."

Mae Michael yn glaf o ardal Tref-y-clawdd sydd wedi aros yn un o'r ystafelloedd ailalluogi ers rhyw bedair wythnos ar ôl derbyn gofal mewn ysbytai yn Henffordd, Llandrindod, Aberhonddu a Merthyr Tudful. Canmolodd y trefniadau ailalluogi trwy ddweud: "Mae hi nawr yn llawer haws i fy ffrindiau a fy nheulu ymweld yma cyn i mi fynd adref."

Mae'r Cynorthwyydd Gofal Iechyd Grace Lewis yn gweithio gydag un o'r preswylwyr yn ystod sesiwn gweithgareddau.

Noddodd David Farnsworth, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Cymunedol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: "Dros yr wythnosau nesaf mae'n ddigon posib y byddwch yn gweld cydweithwyr sydd â mesurau tâp yn yr ysbyty wrth i ni weithio i gynyddu nifer y clinigau cleifion allanol y gallwn eu darparu yno."

Cyfeiriodd at enghraifft o ymweliad diweddar gan dîm sgrinio llygaid retinopathi diabetig Iechyd Cyhoeddus Cymru.

"Ac rwy'n falch iawn o ddweud bod Cynghrair Cyfeillion Ysbyty Tref-y-clawdd wedi darparu cyllid yn hael ar gyfer ailddatblygu gardd yr ysbyty. Ar hyn o bryd rydyn ni’n trafod hyn gyda chontractwyr ac yn gobeithio cwblhau'r gwaith yn y Gwanwyn," meddai David.

Ers 2020 mae’r bwrdd iechyd wedi bod yn gweithio'n galed i recriwtio nyrsys cofrestredig i ymuno â'r tîm cleifion mewnol yn Ysbyty Tref-y-clawdd. Ond yn anffodus, er ein bod wedi derbyn ychydig o ddiddordeb mewn rolau nyrsio cofrestredig, nid yw wedi cyrraedd y lefelau sydd eu hangen eto i redeg ward 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Ychwanegodd Mr Farnsworth: "Mae'n rhaid i mi bwysleisio ein bod wedi ymrwymo'n llwyr i ddatblygiad parhaus gwasanaethau i bobl yn Nhref-y-clawdd a Dwyrain Sir Faesyfed, a byddwn yn parhau i weithio gyda chi i sicrhau dyfodol disglair i Ysbyty Tref-y-clawdd.”