Mae ymchwilwyr o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi bod yn rhan o astudiaeth newydd yn galw am ddiwygio polisi wrth reoli meddyginiaeth wrthseicotig i gefnogi cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Dan arweiniad Prifysgol Lerpwl ac mewn cydweithrediad â Phrifysgol Leeds a Phrifysgol Glasgow, mae'r papur newydd yn nodi bylchau mewn gofal i gleifion â salwch meddwl difrifol.
Mae mwy o wybodaeth ar gael o wefan Prifysgol Lerpwl ac o wefan PLOS ONE.
Rhyddhawyd: 08/03/2024