Neidio i'r prif gynnwy

Ffoniwch yn gyntaf cyn ymweld âg Uned Mân Anafiadau ym Mhowys

Doctor gwrywaidd yn rhoi rhwymyn ar law claf

Gall Unedau Mân Anafiadau Powys drin oedolion a phlant 2+ oed ag anafiadau nad ydynt yn argyfyngus neu'n rhai sy'n bygwth bywyd.

Gall y mathau o anafiadau a gaiff eu trin gynnwys:

  • anafiadau i goesau uchaf ac isaf
  • esgyrn wedi torri, ysigiadau, cleisiau a chlwyfau
  • brathiadau – dynol, anifeiliaid a phryfed
  • llosgiadau a sgaldiadau
  • mân anafiadau i'r pen
  • trwynau wedi torri a gwaedlif o'r trwyn
  • cyrff tramor yn y llygaid a'r trwyn
  • rhwygiadau/clwyfau

 

Ffoniwch cyn i chi ymweld â'n Hunedau Mân Anafiadau. Bydd ein nyrsys arbenigol yn gallu rhoi cyngor i chi dros y ffôn, trefnu apwyntiad i chi, neu eich cyfeirio at wasanaeth arall os yn briodol.

  • Aberhonddu: 01874 615800 (24 awr y dydd)
  • Llandrindod: 01597 828735 (7yb tan hanner nos, bob dydd)
  • Y Trallwng: 01938 558919 / 10938 558931 (8yb i 8yh, bob dydd)
  • Ystradgynlais: 01639 (8:30 i 4yp, Llun - Gwener ac eithrio gwyliau banc)

Y tu allan i'r amseroedd hyn cynghorir cleifion i gysylltu â 111 i gael cyngor meddygol. Mewn argyfwng ffoniwch 999.

Cofiwch nad yw Pelydr-X ar gael i'r rhai dan 5 oed yn Aberhonddu, Llandrindod ac Ystradgynlais. 

Defnyddiwch y tabl isod i helpu dod o hyd i'r gwasanaeth cywir y tro cyntaf:

Damweiniau ac Achosion Brys

111

Fferyllfa

Meddyg Teulu

  • Colli ymwybyddiaeth
  • Cyflwr dryslyd sydyn
  • Ffitiau nad ydynt yn stopio
  • Poen yn y frest
  • Anawsterau anadlu
  • Gwaedu difrifol na ellir ei atal
  • Adweithiau alergaidd difrifol (anaffylacsis)
  • Llosgiadau difrifol neu sgaldiadau
  • Strôc
  • Trawma mawr fel gwrthdrawiad traffig ffordd
  • Teimladau o hunan-niweidio neu hunanladdiad

Os nad ydych yn siŵr beth i'w wneud;

Gall GIG 111 helpu os oes angen cymorth meddygol brys arnoch neu os nad ydych yn siŵr beth i'w wneud.

Byddant yn gofyn cwestiynau am eich symptomau er mwyn i chi gael yr help sydd ei angen arnoch.

Os oes angen i chi fynd i'r adran damweiniau ac achosion brys, bydd GIG 111 yn archebu amser cyrraedd. Gallai hyn olygu eich bod yn treulio llai o amser yn yr adran damweiniau ac achosion brys.

Gallwch gael help gan GIG 111 ar-lein neu ffoniwch 111. Mae ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Crawniad deintyddol / poen dannedd – GIG 111

  • Clefyd y gwair
  • Pigiadau / brathiad pryfed
  • Llosg haul
  • Dolur gwddf/peswch/annwyd
  • Cur pen
  • Dolur rhydd
  • Poen stumog
  • Anafiadau parhaus dros wythnos oed
  • Crawniad
  • Adolygiad presgripsiwn.
  • Clust glust
  • Chwydu parhaus

 

Cyhoeddwyd: 03/08/2022

Rhannu:
Cyswllt: