Neidio i'r prif gynnwy

Fideo newydd yn ceisio mynd i'r afael â chamwybodaeth ynghylch diet a chanser y fron

14 Medi 2026

Yn dilyn diagnosis o ganser y fron, mae llawer o bobl yn ystyried gwneud newidiadau i’w deiet i gefnogi eu hiechyd a’u llesiant. Fodd bynnag, mae camwybodaeth am ddeiet a chanser yn gyffredin, ac yn aml yn arwain at ddryswch, pryder a chyfyngu diangen ar ddeiet.

Mae fideo newydd, ‘Deiet a Chanser y Fron’: Cyngor cyn, yn ystod, ac ar ôl triniaeth’ wedi cael ei ddatblygu i fynd i’r afael â mythau a chamsyniadau cyffredin, ac mae’n darparu gwybodaeth glir sy’n seiliedig ar dystiolaeth i bobl y mae canser y fron yn effeithio arnynt.

Wrth galon y fideo sgwrsiol mae pedair menyw - Emma, Lena, Jenny a Jan - sy'n rhannu eu profiadau personol o ddeiet a maeth cyn, yn ystod ac ar ôl triniaeth canser y fron.

Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn myfyrio ar y sgyrsiau hyn drwy gydol y fideo ac yn darparu cyngor ymarferol sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan fynd i’r afael â mythau a chamsyniadau cyffredin, ac egluro sut gall triniaeth effeithio ar anghenion maeth, bwyta ac yfed.

Mae’r fideo hefyd yn tynnu sylw at ffynonellau gwybodaeth cenedlaethol dibynadwy ac yn atgyfnerthu pwysigrwydd gofyn am gyngor personol gan dimau gofal y fron a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, fel deietegwyr cofrestredig.

Dywedodd Jan, sy’n ymddangos yn y fideo:

“Rwy’n teimlo mor freintiedig fy mod wedi cael y cyfle i rannu’r hyn a ddysgais wrth helpu i lunio’r adnodd anhygoel hwn yn dilyn fy mhrofiad fy hun o lywio fy nhaith gyda chanser y fron. Rwy’n mawr obeithio y bydd yn helpu ac yn ei gwneud hi’n haws i gleifion yn y dyfodol ddod o hyd i’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i ddilyn deiet iach a chytbwys.”

Datblygwyd y fideo mewn ymateb i arolwg a gynhaliwyd yn 2025, a oedd yn nodi awydd cryf ymysg cleifion canser y fron am wybodaeth ddibynadwy am beth i’w fwyta, beth i’w osgoi a sut y gallai deiet effeithio ar eu triniaeth, eu hadferiad, a’u hiechyd hirdymor.

Dywedodd Jane Spivey, Arweinydd Gweithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd Canser Macmillan:

“Roedd cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu a chyflwyno’r fideo yn brofiad gwych, roedd cydgynhyrchu yn allweddol i siapio’r cynnwys.

“Roedd yn fraint dysgu am brofiadau a heriau deietegol pobl a defnyddio’r wybodaeth hon i ddarparu cyngor deietegol perthnasol sy’n seiliedig ar dystiolaeth i’r rhai y mae canser y fron yn effeithio arnynt cyn, yn ystod, ac ar ôl triniaeth." 

Cynhyrchwyd y fideo gan weithgor amlddisgyblaethol Cymru Gyfan ar y cyd â phobl y mae canser y fron yn effeithio arnynt. Mae wedi cael ei gymeradwyo gan Grŵp Arbenigol Oncoleg Cymdeithas Ddeieteg Prydain a’r Tîm Canser Cenedlaethol (Cymru).

Gellir gwylio’r fideo’n llawn neu mewn adrannau unigol, gan alluogi gwylwyr i ddod o hyd i’r wybodaeth sydd fwyaf perthnasol iddynt yn hawdd. Mae’r cynnwys wedi’i rannu’n dri cham allweddol; diagnosis, yn ystod triniaeth, ac ar ôl triniaeth.

Gwyliwch y fideo llawn yma (mae dewis o isdeitlau Cymraeg a Saesneg ar gael, gyda thestun dwyieithog ar y sgrin): Deiet a Chanser y Fron: Cyngor cyn, yn ystod ac ar ôl triniaeth

 

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan ganser ac angen cymorth, gall Gwella'r Daith Canser (ICJ) helpu. Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen we Gwella'r Daith Canser: Gwella’r Daith Canser ym Mhowys | Dweud Eich Dweud Powys