Neidio i'r prif gynnwy

Gardd newydd I ysbyty Llanidloes

Gweithwyr gofal iechyd ac aelodau o bartneriaethau yn dal siec

Bydd Ysbyty Coffa Rhyfel Llanidloes yn cael gardd synhwyraidd newydd diolch i nawdd gan ei Gynghrair Ffrindiau a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Wedi'i lleoli ger yr Ystafell Gofal Lliniarol yr ysbyty - sy'n cael ei hadnabod fel Ystafell yr Ardd - bydd yr ardd newydd yn cael ei ddefnyddio gan yr holl gleifion, staff ac ymwelwyr â'r ysbyty.

 

Bydd y gwaith ar yr ardd yn dechrau eleni gyda tharged o gwblhau erbyn yr Hydref.

Wrth siarad ar ran Cynghrair y Cyfeillion, dywedodd y Llywydd Nye Jones: 'Mae Cynghrair y Cyfeillion wedi derbyn £9,307 mewn rhoddion gan deuluoedd a ffrindiau claf oedd wedi derbyn gofal yn yr uned gofal lliniarol. Bydd yr arian yn mynd tuag at greu’r ardd newydd.”

 

"Cafodd yr uned gofal lliniarol yn ysbyty Llanidloes - Ystafell yr Ardd - ei sefydlu trwy arian a godwyd gan Gynghrair y Cyfeillion a'r gymuned ac agorodd yn 2018."

 

Fe wnaeth Rob Roffe, Pennaeth Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru longyfarch y prosiect ar ei grant o £9,999 gan ddweud: "Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol rydym yn dyfarnu £30,000 o grantiau'r wythnos i grwpiau cymunedol ar draws y DU, mae dros wyth ym mhob deg (83%) o'n grantiau dan £10,000 - gan fynd i grwpiau ac elusennau fel Ysbyty Coffa Rhyfel Llanidloes sy'n rhoi syniadau anhygoel sy'n bwysig i'w cymunedau ar waith.

 

"Mae cleifion yn yr ysbyty, eu ffrindiau a'u perthnasau, a'r Cyngor Tref wedi dangos eu bod yn cefnogi'r prosiect, mae'r gymuned wedi cynnig help gyda'r plannu a pharhau i gynnal a chadw'r ardd, rydym yn edrych ymlaen at ei agor eleni, " ychwanegodd Rob.

 

Tony Goodman yw Rheolwr Busnes Bwrdd Iechyd Addysgu Powys dros ogledd y sir, ac yn rheoli’r prosiect. Nododd: "Rydym yn falch iawn bod Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi gallu ychwanegu at yr arian anhygoel y mae ein Cynghrair Ffrindiau lleol wedi codi. Bydd yr ardd yn ychwanegiad gwych i’r gwasanaethau a darparwyd yn yr ysbyty yn Llanidloes, a bydd yn siŵr yn cynnig lleoliad gwych i gleifion, ymwelwyr ac i ymlacio.”

 

Dyluniwyd yr ardd mewn ffordd a fydd yn tynnu sylw at olygfa, lliw, teimlad, siâp a symudiad y planhigion a bydd yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn yn ogystal â'r rhai ar droed.

 

Dyluniwyd y prosiect mewn partneriaeth â Chynghrair y Cyfeillion yn ogystal â staff yr ysbyty.

 

Llun: Yn y llun yn yr ardd mae (o'r chwith) Sharon Brown, Tracey Spooner a Sara Williams o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, Guto Jones o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, y cyn prif nyrs Christine Bryant, Tony Goodman o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, Nye Jones o Gynghrair y Cyfeillion ac Ellie Jolley-Dawson o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys.