Neidio i'r prif gynnwy

GIG Cymru yn lansio rhaglen therapi ar-lein Cymraeg ar gyfer gorbryder

Delio â gorbryder? Cymorth yn Gymraeg a Saesneg

Gall siaradwyr Cymraeg sy'n profi gorbryder nawr gael cymorth ar-lein am ddim, yn eu dewis iaith drwy'r GIG.

Mae GIG Cymru yn cynnig amrywiaeth o raglenni therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) dan arweiniad, ar reoli iechyd meddwl a lles. 

Gofod o Orbryder yw'r drydedd raglen CBT i gael ei chyfieithu i'r Gymraeg, gan roi'r dewis a'r rhyddid i siaradwyr Cymraeg fynegi eu teimladau, eu meddyliau a'u hemosiynau yn eu dewis iaith. 

Dywedodd Fionnuala Clayton, rheolwr prosiect gwasanaeth CBT ar-lein GIG Cymru: "Rydyn ni’n hynod falch o lansio'r rhaglen hon yn Gymraeg. 

"Mae darparu therapi dwyieithog yn flaenoriaeth allweddol i ni ac mae wrth wraidd ein penderfyniadau     wrth i'r gwasanaeth barhau i dyfu.

"Mae'n gallu bod yn anodd bod yn agored a rhannu eich meddyliau a'ch teimladau, ac mae'n anoddach fyth os oes rhaid i chi ei wneud hyn eich ail iaith. 

"Mae'n hanfodol ein bod yn chwalu'r rhwystr hwnnw ac yn rhoi'r gofod a'r cyfle i bobl ddefnyddio'r Gymraeg wrth lywio ein cynnwys therapiwtig."

Mae ymchwil yn awgrymu bod bron i chwarter yr oedolion yng Nghymru yn teimlo'n orbryderus drwy'r amser neu'r rhan fwyaf o'r amser, tra bod 45% o oedolion sydd â theimladau o orbryder yn eu cadw'n gyfrinachol.

Er bod rhywfaint o orbryder yn chwarae rhan ddefnyddiol ac iach wrth i  ni ddelio â phroblemau ac wynebu heriau, gall fynd yn llethol ac yn y pen draw ein gwanhau os na chaiff ei drin. 

Gall stigma parhaus ynghylch materion iechyd meddwl ei gwneud hi'n anodd gofyn am help, ond mae rhaglenni therapi ar-lein GIG Cymru - sy'n cael eu darparu gan SilverCloud® - yn helpu chwalu'r rhwystrau at ofal.

Mae'r rhaglenni rhyngweithiol yn dysgu sgiliau ymdopi ymarferol ar gyfer materion iechyd meddwl ysgafn i gymedrol a gellir eu cyrchu'n ddienw ar-lein - heb weld meddyg teulu nac ymuno â rhestrau aros - trwy unrhyw ddyfais symudol, llechen, gliniadur neu ddyfais bwrdd gwaith.

Mae’n cymryd 12 wythnos i'w cwblhau ac mae angen i ddefnyddwyr gwasanaeth ymrwymo at o leiaf 15 munud y dydd, 3-4 gwaith yr wythnos. Caiff cynnydd ei fonitro gan ymarferwyr cymwys, sy'n darparu adborth bob pythefnos ac yn gallu uwchgyfeirio achosion mwy difrifol i gyrchu cymorth pellach.

30,000 o bobl wedi defnyddio'r gwasanaeth - sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru - ers iddo gael ei dreialu ym Mhowys yn 2018. 

Cafodd ei rhannu yng Nghymru ym mis Medi 2020 a Gofod o Orbryder yw'r ail raglen y gofynnwyd amdani fwyaf, gyda bron i 6000 o bobl yn cofrestru yn ystod y chwe blynedd diwethaf. 

Y mae'r ddarpariaeth Gymraeg newydd yn cydymffurfio ag un o themâu Cymraeg 2050 - strategaeth Llywodraeth Cymru sy'n anelu at gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 - ac mae'n cyd-fynd â Mwy Na Geiriau, ei Fframwaith Strategol ar gyfer Hyrwyddo'r Gymraeg ym maes iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol.

Cydlynydd CBT Ar-lein GIG Cymru Leah Williams yn un o 12 cefnogwr ar-lein

hyfforddedig  sy'n monitro ac yn rhoi adborth i ddefnyddwyr SilverCloud® Cymru. Cafodd ei magu mewn teulu o siaradwyr Cymraeg, yn siarad Cymraeg fel ei hiaith gyntaf. 

Meddai Leah: "Rwy'n credu fy mod i bob amser yn ei gymryd yn ganiataol wrth fynd i weld fy meddyg teulu, rydw i’n cael y fraint o weld meddyg sy'n siarad Cymraeg, ond pan ddaeth i gael gafael ar gymorth iechyd meddwl, nid oedd hyn bob amser yn wir. 

"Roedd fy ymarferwyr iechyd meddwl a'm cwnselwyr yn ddi-Gymraeg. Roedd hi'n anodd i mi fod yn agored a thrafod materion personol.

"Mae methu sgwrsio yn eich iaith gyntaf yn gallu bod yn ofidus, yn enwedig wrth siarad am bwnc sydd yn barod yn emosiynol. 

"Pan roeddwn i’n siarad â chwnselydd Cymraeg, roedd cysylltiad therapiwtig yno’n syth gan ein bod ni’n rhannu hunaniaeth a dealltwriaeth ddyfnach o fy mhroblemau a'm hanghenion. 

"Mae'n deimlad gwerth chweil fy mod bellach yn cael cynnig hwn i SilverCloud Cymru fel aelod Cymraeg o'r tîm cymorth ar-lein.

"Mae pobl yn gyflym i ddweud bod y Gymraeg yn iaith sy’n diflannu, ond y gwir amdani yw ei bod  hi yma ac yn fyw." 

 

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i: https://nhswales.silvercloudhealth.com/signup/

Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/SilvercloudW

Dilynwch ni ar Facebook: https://www.facebook.com/SilverCloudWales

 

Rhyddhawyd: 22/07/2024

Rhannu:
Cyswllt: