10/08/26
Gofalu amdanoch eich hun yn ystod tymor tanau glaswellt.
Mae tywydd cynhesach yn dod â risg uwch o danau glaswellt ar draws ein hardal.
Gall mwg o dân glaswellt effeithio ar eich anadlu, llidio eich croen a'ch llygaid, ac achosi poen yn y frest yn ogystal â gwaethygu cyflyrau fel asthma.
Dilynwch y cyngor hwn ar sut i aros yn ddiogel os yw mwg tân glaswellt wedi effeithio ar ble rydych chi’n byw.
- Os ydych chi’n gweld tân gwyllt, ewch i le diogel, ffoniwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tân.
- Dilynwch y cyngor gewch chi gan y gwasanaethau brys.
- Arhoswch y tu mewn i adeilad a chadwch y ffenestri a’r drysau ar gau.
- Diffoddwch unrhyw offer aerdymheru.
- Os oes rhaid i chi fynd allan pan fydd tân, dylech osgoi neu gyfyngu ar yr amser y byddwch mewn mannau sydd wedi’u heffeithio gan fwg neu lwch.
- Os ydych chi’n teithio, cadwch ffenestri ac awyrellau eich cerbyd ar gau a diffoddwch yr aerdymheru.
- Cofiwch fynd â’ch mewnanadlydd gyda chi os oes ei angen.
- Os oes gennych chi symptomau sy’n parhau ar ôl i chi fynd i mewn o’r mwg neu’r lludw, gofynnwch am gyngor gan eich meddyg teulu neu GIG 111.
Os ydych chi'n poeni am symptomau a achosir gan fwg tanau glaswellt, ffoniwch GIG 111 Cymru neu ewch i i wefan GIG 111 Cymru
Mae GIG 111 Cymru ar gael 24 awr y dydd, bob dydd. Gallwch ffonio os ydych yn teimlo'n sâl ac yn ansicr beth i'w wneud. Gallwch hefyd gael mynediad at ystod eang o wybodaeth iechyd am gyflyrau a thriniaethau.
Cadw’r amgylchedd a chi eich hun yn ddiogel
- Peidiwch â chynnau tân.
- Ewch am bicnic yn hytrach na barbeciw.
- Byddwch yn ofalus iawn gyda bonion sigaréts.
- Cliriwch bob sbwriel, poteli a phob gwydr sydd wedi torri. Gall gwydr yn yr haul weithio fel chwyddwydr a dechrau tân.
Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn eich annog i fod yn ymwybodol o beryglon tanau gwyllt dros dymhorau’r gwanwyn a'r haf #DoethiDanauGwyllt.