Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys dan rwymedigaeth statudol i ddrafftio Asesiad Anghenion Fferyllol, ymgynghori arno a'i gyhoeddi erbyn 1 Hydref 2026 yn unol â Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020.
Mae'r Asesiad o Anghenion Fferyllol wedi'i gynllunio i asesu'r ddarpariaeth bresennol o wasanaethau fferyllol (h.y. y gwasanaethau y mae'r bwrdd iechyd yn eu comisiynu gan fferyllfeydd, contractwyr presgripsiynau dyfeisiau a meddygon fferyllol), ystyried unrhyw amgylchiad penodol yn y dyfodol lle gallai'r sefyllfa bresennol newid yn sylweddol a nodi unrhyw fylchau presennol a rhai yn y dyfodol mewn gwasanaethau fferyllol.
Mae'r Asesiad o Anghenion Fferyllol yn cynorthwyo'r bwrdd iechyd i benderfynu ar geisiadau gan fferyllfeydd, contractwyr presgripsiynau dyfeisiau a meddygon fferyllol ar gyfer safleoedd newydd, ychwanegol neu wedi'u hadleoli, newidiadau i oriau agor neu ddarparu mwy o wasanaethau fferyllol.
Fel rhan o'r broses hon, mae'r bwrdd iechyd yn cynnal proses ymgynghori ar Ddrafft Asesiad o Anghenion Fferyllol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ac yn ceisio eich barn.
Mae cyfnod ymgynghori ar ddrafft Asesiad o Anghenion Fferyllol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn digwydd o 1 Mehefin 2026 i 30 Gorffennaf 2026.
Estynnwn wahoddiad i chi i:
Mae drafft yr asesiad o anghenion fferyllol ar gael o'n gwefan ymgynghori yn www.dweudeichdweudpowys.cymru/aaf-2026, neu mae copi caled ar gael ar gais:
Gallwch rannu eich adborth gan ddefnyddio ein harolwg ar-lein yn www.dweudeichdweudpowys.cymru/aaf-2026, neu mae copi caled ar gael ar gais:
Bydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cadw eich manylion a'ch ymatebion ond dim ond at ddiben yr ymgynghoriad hwn a datblygu'r asesiad o anghenion fferyllol y cânt eu defnyddio. Bydd unrhyw ddata personol a ddarparwch yn cael ei gadw yn unol â'n polisi preifatrwydd (https://biap.gig.cymru/use-of-site/preifatrwydd/).
Bydd eich adborth yn llywio fersiwn derfynol Asesiad o Anghenion Fferyllol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a fydd yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan erbyn 1 Hydref 2026.
Os hoffech gael eich diweddaru ar y camau nesaf ar Asesiad o Anghenion Fferyllol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, cofrestrwch i dderbyn ein bwletinau e-bost rheolaidd:
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad neu os oes gennych gwestiynau am yr Asesiad o Anghenion Fferyllol, ysgrifennwch at y Tîm Rheoli Meddyginiaethau, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Ysbyty Bronllys, Bronllys, Powys LD3 0LY
Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English
Diolch am eich diddordeb yn nrafft Asesiad o Anghenion Fferyllol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Yn gywir,
Jonathan Boyd, Prif Fferyllydd, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys