Neidio i'r prif gynnwy

Golau gwyrdd ar gyfer newidiadau dros dro i rai gwasanaethau UMA a gwasanaethau wardiau ym Mhowys

Heddiw (10 Hydref 2024) mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi cymeradwyo cynigion ar gyfer newidiadau dros dro i rai gwasanaethau mân anafiadau a gwasanaethau ar y wardiau yn y sir. 

Mewn cyfarfod cyhoeddus o'r Bwrdd, cymeradwyodd yr aelodau argymhelliad i newid yr oriau agor dros dro ar gyfer Unedau Mân Anafiadau yn Aberhonddu a Llandrindod i 8yb tan 8yh, a chytunwyd hefyd ar newid dros dro i'r model clinigol ar gyfer gofal cleifion mewnol yn Aberhonddu, Bronllys, Llanidloes a'r Drenewydd. 

Cytunodd y Bwrdd Iechyd y dylid cyflwyno'r ddau gynnig dros dro am gyfnod o 6 mis. Bydd amserlen ar gyfer gweithredu nawr yn cael ei chytuno, gyda disgwyl i'r ddau newid fod ar waith erbyn mis Rhagfyr. 

Nod y Bwrdd Iechyd yw ymateb i nifer o heriau sy'n wynebu'r GIG a chleifion lleol, gwella ansawdd a gwerth, a sefydlogi'r ddarpariaeth o wasanaethau allweddol fel y gellir cynnal trafodaeth a dadl gyda'r cyhoedd, staff a rhanddeiliaid ehangach i gytuno ar siâp parhaol gwasanaethau iechyd diogel a chynaliadwy yn y sir yn y dyfodol. 

Dywedodd Dr Carl Cooper, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: 

"Rydym yn ddiolchgar i'r llu o bobl, grwpiau a chymunedau sydd wedi cymryd rhan yn yr broses ymgysylltu ynghylch y newidiadau dros dro arfaethedig i wasanaethau. Mae'r Bwrdd wedi rhoi ystyriaeth lawn a chydwybodol i'r holl adborth. Rydym hefyd wedi craffu ar fanteision y cynigion ynghyd â'r risgiau o beidio â mynd i'r afael â'r heriau i ansawdd a chynaliadwyedd gwasanaethau. O ganlyniad, rydym wedi cytuno mai gweithredu'r newidiadau dros dro hyn yw'r ffordd orau a phriodol ymlaen. Caiff y newidiadau hyn eu hadolygu a'u gwerthuso, a bydd eu heffeithiolrwydd yn cael ei ystyried gan y Bwrdd ar ddiwedd y cyfnod dros dro o chwe mis. Mae’r adborth rydym wedi’i glywed gan y cyhoedd, staff, meddygfeydd a phartneriaid wedi ein helpu ni ddatblygu fframwaith clir ar gyfer dysgu, adolygu a gwerthuso." 

Yn dilyn penderfyniadau’r Bwrdd, bydd y newidiadau dros dro hyn yn digwydd erbyn mis Rhagfyr 2024: 

  • Bydd yr Uned Mân Anafiadau yn Aberhonddu ar agor o 8yb tan 8yh (24 awr ar hyn o bryd er bod y gwasanaeth yn gorfod cau dros nos yn aml ar fyr rybudd). 

  • Bydd yr Uned Mân Anafiadau yn Llandrindod ar agor o 8yb tan 8yh (7yb tan ganol nos ar hyn o bryd er bod y gwasanaeth yn gorfod cau’n gynnar yn aml ar fyr rybudd). 

  • Bydd Ward Graham Davies yn Llanidloes yn canolbwyntio'n gryfach ar gleifion sydd wedi cael eu hasesu’n Barod i Fynd Adref. 

  • Bydd Ward Brynheulog yn y Drenewydd yn canolbwyntio'n gryfach ar gleifion sydd wedi cael eu hasesu i angen gofal adsefydlu mwy arbenigol mewn ysbyty cymunedol. 

  • Bydd Ward Llewelyn ym Mronllys yn canolbwyntio'n gryfach ar gleifion sydd wedi cael eu hasesu’n Barod i Fynd Adref. 

  • Bydd Ward Epynt yn Aberhonddu yn canolbwyntio'n gryfach ar gleifion sydd wedi cael eu hasesu i angen gofal adsefydlu mwy arbenigol mewn ysbyty cymunedol. 

Dywedodd Hayley Thomas, Prif Weithredwr Dros Dro Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: 

"Roedd penderfyniadau heddiw hefyd yn cynnwys camau allweddol i ymateb i'r pryderon a glywsom yn ystod y cyfnod ymgysylltu, er enghraifft trwy egluro y bydd gofal diwedd oes yn parhau i gael ei ddarparu yn ysbytai Bronllys a Llanidloes, a bydd gofal camu-i-fyny yn parhau i fod ar gael ar gyfer derbyniadau gan feddygon teulu. Byddwn yn gweithio gyda Meddygon Teulu a phartneriaid eraill i weithredu meini prawf derbyn clinigol clir i'n helpu ni ddarparu'r gofal gorau yn y lle iawn i gleifion Powys." 

Dywedodd Claire Roche, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd, Iechyd Menywod ac Iechyd Plant Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: 

"Rydym yn hyderus y bydd y model dros dro hwn o ofal cleifion mewnol yn ein helpu ni sicrhau gwell canlyniadau a phrofiad i’n cleifion. 

“Mae’n bwysig iawn i mi nodi bod nifer y gwelyau ysbyty cymunedol a'u lleoliadau yn parhau heb newid ar draws y sir. Ond drwy roi ffocws cliriach ar wardiau ym Mronllys a Llanidloes fel unedau 'Barod i Fynd Adref' gallwn ddarparu gofal mwy penodol i bobl sy'n barod i fynd adref ond sy'n aros am becyn gofal yn y gymuned. Gallwn helpu pobl cynnal eu symudedd a'u helpu cadw'n actif, sy’n bwysig wrth leihau'r risg o ddatgyflyru mewn lleoliad ysbyty. 

"Yn yr un modd, gallwn sicrhau adferiad cyflymach i fwy o gleifion trwy gryfhau rôl wardiau yn Aberhonddu a'r Drenewydd ar gyfer darparu gofal adsefydlu cleifion mewnol arbenigol. Mae hyn yn adeiladu ar eu rôl bresennol fel ein canolfannau ar gyfer adsefydlu strôc. 

"Byddai'r ysbytai cymunedol sy'n weddill ym Mhowys yn parhau i ddarparu gofal yn y ffordd maen nhw'n gwneud nawr.” 

Dywedodd Kate Wright, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: 

"Bydd y newidiadau dros dro hyn yn caniatáu i’n Hunedau Mân Anafiadau ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy. 

"Yn ystod y cyfnod ymgysylltu clywsom lawer o gamddealltwriaeth ynghylch rôl Unedau Mân Anafiadau. Ni allwn bwysleisio’n ddigon cryf bod yr unedau hyn ar gyfer trin mân anafiadau yn unig. Nid ydynt ar gyfer anafiadau sy’n peryglu bywyd neu aelodau’r corff nac ar gyfer salwch difrifol. 

“Mewn argyfwng, dylai pobl ffonio 999 neu fynd i adran ddamweiniau ac achosion brys. Gall fynd i UMA gyda chyflwr meddygol brys oedi mynediad at ofal sy’n achub bywyd.” 

Bydd y bwrdd iechyd yn lansio ymgyrch farchnata cyn y newid yn oriau agor yr UMA, y disgwylir iddo ddechrau yn ystod mis Tachwedd. Ni fydd unrhyw newid i wasanaethau gofal brys eraill fel 111 a ShropDoc. 

Mae'r agenda a'r papurau ar gyfer cyfarfod y Bwrdd Iechyd ar 10 Hydref 2024 ar gael ar wefan y Bwrdd Iechyd yn 10 Hydref 2024 - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru) 

Bydd recordiad o'r cyfarfod hefyd ar gael ar y wefan yn fuan. 

Bydd diweddariadau rheolaidd ar y newidiadau dros dro yn cael eu cyflwyno i gyfarfodydd y Bwrdd yn y dyfodol. 

YouTube

Google YouTube

 

Rhyddhawyd: 10/10/2024

Rhannu:
Cyswllt: